Mae Aaron Ramsey, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer gemau ail gyfle Ewro 2024.
Roedd disgwyl y byddai’n methu’r gemau yn erbyn y Ffindir a naill ai Gwlad Pwyl neu Estonia yn sgil anaf i’w goes.
Dim ond dwywaith mae Aaron Ramsey wedi chwarae i Gaerdydd ers dioddef anaf i’w ben-glin fis Medi.
Mae Robert Page, rheolwr tîm dynion Cymru, wedi enwi 28 o chwaraewyr yn ei garfan.
Golyga anafiadau nad ydy Joe Morrell, Tom Bradshaw, Tom Lockyer na Niall Huggins yn rhan o’r garfan.
Mae tri chwaraewr gafodd eu cynnwys yng ngharfan dan-21 Cymru yn ddiweddar, Charlie Savage, Joe Low a Rubin Colwill, wedi’u cynnwys.
Bydd Cymru’n wynebu Ffindir nos Iau, Mawrth 21 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer rownd gynderfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd yr Ewros eleni.
Fe fydd enillwyr y gêm honno yn chwarae gartref yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar Fawrth 27 yn y gobaith o gyrraedd yr Almaen.
Y garfan
Wayne Hennessey, Danny Ward, Tom King, Adam Davies;
Ben Davies, Joe Rodon, Joe Low, Chris Mepham, Ben Cabango, Neco Williams, Jay DaSilva, Connor Roberts, Wes Burns;
Ethan Ampadu, Josh Sheehan, Dylan Levitt, Jordan James, Charlie Savage, Harry Wilson, Nathan Broadhead, Aaron Ramsey, Rabbi Matondo, David Brooks, Daniel James;
Liam Cullen, Rubin Colwill, Brennan Johnson, Kieffer Moore.