Bydd George North yn chwarae i Gymru am y tro olaf ddydd Sadwrn (Mawrth 16).

Mae’r chwaraewr rygbi wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl ennill cap 121 dros ei wlad yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd.

Bydd yn parhau i chwarae rygbi clwb, gan symud o’r Gweilch i Provence yn Ffrainc ar gyfer tymor 2024-24.

George North, sy’n 31 oed, sydd wedi ennill y nifer uchaf o gapiau dros Gymru ar ôl Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhestr hir o chwaraewyr Cymru wedi ymddeol, gan gynnwys Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Leigh Halfpennny a Dan Biggar.

‘Lwcus iawn’

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywed George North bod nawr, ar ôl 14 mlynedd yn y crys coch, yn teimlo fel yr amser iawn i gamu’n ôl.

“Dw i wedi penderfynu y bydd y gêm ddydd Sadwrn yn dod â’m gyrfa ryngwladol i ben,” meddai mewn datganiad ar X, Twitter gynt.

“Dw i wedi caru a gwerthfawrogi bob eiliad yng nghrys Cymru a chael chwarae gyda chyd-chwaraewyr anhygoel.

“Dw i’n lwcus iawn fy mod i wedi byw fy mreuddwyd.

“Dw i’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.

“Diolch i chi gyd am y gefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Nick Tompkins

George North a Nick Tompkins yn ôl ar gyfer gêm olaf y Chwe Gwlad

“Bydd yn rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae ddydd Sadwrn ac os gwnawn ni hynny, dylai’r darnau ddisgyn i’w lle,” medd Warren Gatland