Bydd y terfyn cyflymder yn cael ei orfodi ar lonydd 20mya newydd o Fawrth 18 ymlaen.

Daw wedi i’r terfyn cyflymder newydd gael ei gyflwyno ar nifer o ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30mya ledled Cymru fis Medi 2023.

Dim ond naw o bobol gafodd eu herlyn am oryrru ym mis Ionawr a Chwefror, medd GanBwyll.

Bu oedi yn y broses o orfodi’r terfyn am gyfnod er mwyn galluogi i’r cyhoedd ddod i arfer gyda’r newidiadau.

Fodd bynnag, roedd lonydd oedd yn 20mya cyn mis Medi yn parhau i gael eu monitro a’u gorfodi.

Fe wnaeth GanBwyll ehangu eu timau Ymgyrch Ugain ddechrau’r flwyddyn, a chafodd 25,000 o gerbydau eu monitro mewn ardaloedd 20mya yn ystod dau fis cyntaf y flwyddyn.

Y syniad yw bod swyddogion heddlu’n stopio cerbydau sy’n goryrru a rhoi dewis i’r gyrrwr rhwng cymryd rhan yn y broses ymgysylltu neu gymryd pwyntiau ar eu trwydded a dirwy.

Os yw gyrwyr yn dewis y cwrs ymgysylltu, mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn rhoi cyflwyniad deng munud sy’n egluro’r rhesymau dros y newid a sut i weld a yw’r terfyn ar waith ar ffordd benodol.

Fodd bynnag, gall gyrwyr wrthod dilyn y cwrs ymgysylltu am ddim gan arwain at erlyniad.

O’r rheiny gafodd eu dal yn goryrru yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn, dim ond naw gafodd eu herlyn am iddyn nhw beidio â chymryd rhan yn y broses ymgysylltu.

Yn ôl GanBwyll, roedd 97% yn gyrru ar gyflymder islaw 25mya.

Ymgysylltu a gorfodi

Gan fod chwe mis wedi pasio ers cyflwyno’r terfyn, bydd gorfodi’r drefn yn cael ei ystyried ar gyfer pob man ble mae risg diogelwch.

Yr ymateb cyntaf i bryderon am oryrru mewn ardaloedd 20mya fydd defnyddio Ymgyrch Ugain o hyd, gan ddefnyddio cyfuniad o ymgysylltu a gorfodaeth.

Bydd unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg mewn ardaloedd 20mya yn cael eu hasesu o Fawrth 18 ymlaen.

Dywed GanBwyll eu bod nhw’n blaenoriaethu ymgysylltu gan ei fod yn cefnogi newid mewn ymddygiad.

Fodd bynnag, byddan nhw dal i ddefnyddio mesurau gorfodi pan fydd cyfiawnhad dros wneud hynny ac nad hi’n briodol ymgysylltu â’r gyrrwr.

“Cyflwyno gorfodi mewn ardaloedd 20mya newydd yw cam nesaf ein dull gweithredu, sydd wedi ei arwain gan ymgysylltu,” medd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Trudi Meyrick, Arweinydd Plismona Ffyrdd Cymru.

“Rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr a’r ymateb i’r newid yn y terfyn cyflymder rhagosodedig, wrth ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru gydag Ymgyrch Ugain.”

Ychwanega y bydd gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio’n “gymesur ac yn deg.”

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phobl ledled Cymru ac rydym yn hyderus y gellir defnyddio lefel gymesur o orfodi nawr i gadw ni’n symud tuag at greu ffyrdd mwy diogel,” meddai.