Mae argymhelliad i gau safleoedd yr Ambiwlans Awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng “yn warthus” a “phryderus”, medd gwleidyddion.
Yn ôl adroddiad, gafodd ei arwain gan brif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byddai’n well cadw’r holl hofrenyddion mewn safle newydd yn y gogledd.
Nod yr adroddiad oedd gwella’r gwasanaeth fel ei bod hi’n bosib ymateb i fwy o alwadau.
Yn ôl Stephen Harrhy, y prif gomisiynydd, byddai agor canolfan newydd ger y Rhuddlan yn y gogledd ddwyrain yn golygu eu bod nhw’n gallu cyrraedd 139 o gleifion ychwanegol y flwyddyn.
Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i’r awgrymiadau i gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng, gydag ymgyrchwyr yn ofni y byddai’n effeithio ar amseroedd ymateb yn yr ardaloedd.
‘Cam yn ôl’
Yn ôl cynrychiolwyr gwleidyddol Dwyfor Meirionnydd, mae’n “benderfyniad gwarthus fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i ddiogelwch pobl ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru”.
“Mae pobol wedi rhoi miloedd o bunnoedd i Ambiwlans Awyr Cymru ar y ddealltwriaeth ei fod yn darparu ymateb meddygol brys ac amserol i gymunedau ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, a Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd.
“Mae’r penderfyniad hwn yn gam yn ôl o ran darparu gofal meddygol brys ar draws ein cymunedau gwledig – wedi’i selio ar ddata amheus a phroses ymgynghori ddiffygiol.
“Roedd gan Lywodraeth Lafur Cymru y gallu a’r cyfle i ddylanwadu ac ymyrryd yn y broses hon ond ni wnaethant ddim o’r fath.
“Ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o’r pryderon gwirioneddol a fynegwyd gan ein hetholwyr ac nid oes unrhyw gynrychiolaeth wedi’i wneud gan y llywodraeth i sicrhau bod Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i wasanaethu pob rhan o’r wlad yn gyfartal.
“Yr Ambiwlans Awyr yw’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth mewn llawer o ardaloedd gwledig ar draws Cymru megis Meirionnydd, Pen Llŷn, gogledd Ceredigion, Ynys Môn, a Maldwyn – mewn ardaloedd sydd eisoes dan fygythiad oherwydd amseroedd aros ambiwlans hir.
“Mae’r gwasanaeth a gynigir gan ganolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng yn hanfodol ac mae’n anffodus dros ben ei bod yn edrych yn debyg y bydd cefn gwlad Cymru yn dioddef yn sgil canoli’r gwasanaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru.”
Ychwanega’r ddau fod angen i ymgyrchwyr ystyried bob posibilrwydd i herio’r penderfyniad, gan gynnwys adolygiad barnwrol.
‘Newyddion pryderus’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder am yr argymhelliad hefyd, gan ddweud ei fod yn “newyddion pryderus i gymunedau gwledig ledled Cymru”.
“Mae cymunedau Canolbarth a Gogledd Cymru’n dibynnu ar wasanaeth yr ambiwlans awyr i wneud iawn am wasanaeth iechyd lleol gwaelach a mwy gwasgaredig, diffyg ysbytai cyffredinol a phroblemau gyda mynediad ffyrdd,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.
“Mae’n hollbwysig bod y Gweinidog Iechyd Llafur yn ymyrryd ar frys.
“Mae pobol Canolbarth a Gogledd Cymru angen, ac yn haeddu, gwasanaeth dibynadwy pan mae angen gofal brys ar unwaith.”
‘Gwasanaeth mwy effeithiol’
Pedair canolfan Ambiwlans Awyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’r ddwy arall yng Nghaerdydd a Llanelli.
Yn ôl yr adroddiad, byddai symud yr hofrenyddion i Ruddlan yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol ar hyd y wlad.
Dywed bod angen cyflwyno gwelliannau i’r ddarpariaeth yn y gogledd fin nos, gan fod tua 530,000 o bobol yn byw dros awr i ffwrdd o hofrennydd ar ôl wyth yr hwyr.
Byddai modd i hofrenyddion sy’n hedfan o Ruddlan gyrraedd tua 25.1% o’r boblogaeth, medd y modelu, sy’n llai na’r hyn sy’n bosib o’r Trallwng (40.1%) a Chaernarfon (25.8%).
Fyddai hi ddim yn bosib cyrraedd cymaint o bobol ar y ffyrdd mewn 90 munud o’r safle newydd chwaith, a byddai’n cymryd hirach na 90 munud i gyrraedd pen draw Pen Llŷn, rhannau o Ynys Môn a rhannau o’r canolbarth.
Mae’r adroddiad yn awgrymu cyflwyno gwasanaeth gofal newydd ar y ffordd ar gyfer ardaloedd gwledig yn lle.