Tro’r Prif Weinidog Mark Drakeford oedd hi i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad Covid yng Nghaerdydd heddiw (Mawrth 13).
Yn ystod y sesiwn dywedodd ei fod yn “derbyn cyfrifoldeb” am bob penderfyniad a wnaed gan ei gabinet yn ystod y pandemig.
Fodd bynnag, anelodd Mark Drakeford feirniadaeth gref at Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan ddisgrifio penderfyniad Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, i beidio â chyfarfod ag arweinwyr y gwledydd datganoledig fel un “rhyfeddol.”
“Ysgrifennais yn rheolaidd iawn at y Prif Weinidog, yn gofyn am gyfres o gyfarfodydd rhwng penaethiaid y pedair gwlad,” meddai.
Dywedodd Mark Drakeford y dylai’r gwledydd fod wedi cyfarfod yn gynt er mwyn caniatáu i benderfyniadau cael eu gwneud ar y cyd.
Cododd Mark Drakeford ei bryderon ynglŷn â’r diffyg rhybudd oedd y gwledydd datganoledig yn eu cael yn sgil cyfarfodydd COBRA hefyd.
Yn ôl y Prif Weinidog, roedd y gwledydd datganoledig o dan anfantais gan nad oedden nhw’n derbyn papurau briffio’r cyfarfodydd tan ychydig funudau cyn i’r cyfarfod gychwyn.
Gormod o ohebiaeth
Clywodd yr ymchwiliad bod cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi bod yn anfon swm mawr o ohebiaeth at Mark Drakeford yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Prif Weinidog bod y cyn-ysgrifennydd “yn llenwi ei ddyddiau drwy ysgrifennu llythyrau ataf yn holi am gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru” yn ystod dyddiau cynnar y pandemig.
Ychwanegodd ei fod wedi gorfod sgrifennu at Simon Hart yn dweud nad oedd yn gallu blaenoriaethu ateb ei ohebiaeth gan mai i Senedd Cymru oedd yn atebol yn y pen draw.
Dywedodd Mark Drakeford bod gorfod delio gyda’r ohebiaeth o bosib wedi dechrau amharu ar allu Llywodraeth Cymru i “wneud y pethau roedd angen eu gwneud”.
Yn ogystal, gwrthododd Mark Drakeford honiadau a wnaed yn flaenorol gan Simon Hart bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio bod yn wahanol “er mwyn bod yn wahanol” yn ystod y pandemig.
Beirniadodd Boris Johnson, hefyd, gan ei gyhuddo o roi gwleidyddiaeth o flaen ymarferoldeb mewn rhai achosion.
Mae Boris Johnson a Simon Hart eisoes wedi dweud wrth yr ymchwiliad y dylai penderfyniadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig pe bai pandemig arall.
Fodd bynnag, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn anghytuno gyda hyn gan nad oes tystiolaeth i awgrymu “y byddai penderfyniadau a wneir yn Llundain yn benderfyniadau gwell cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.”
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru “yn agosach at lawr gwlad, yn fwy ymwybodol o strwythurau gweinyddol, yn effro i batrymau gwahanol y clefyd” ac yn gallu cyfathrebu’n well yn ddwyieithog.
Er hynny, dywedodd y byddai hi wedi bod yn well pe bai trefn well i gydlynu penderfyniadau rhwng gwledydd Prydain.
Egluro, nid cyfiawnhau
Mae’r defnydd o WhatsApp a dileu negeseuon yn bwnc sydd wedi codi’n gyson yn ystod yr ymchwiliad hyd yma.
Er hynny, dywedodd Mark Drakeford mai dim ond 11 gwaith cafodd y cyfrwng negeseuo ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig.
Ychwanegodd nad oedd polisi i beidio â defnyddio negeseuon anffurfiol ar gyfer busnes y Llywodraeth yn gwneud synnwyr yng nghyd-destun y pandemig.
Roedd cartrefi gofal yn bwnc llosg arall yn ystod y pandemig gyda chyhuddiadau bod pobol yn cael eu hanfon mewn i’r system gofal heb orfod gwneud profion Covid o flaen llaw.
Wrth ymateb i’r sylwadau dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn gallu cyfiawnhau’r sefyllfa mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig ond ceisiodd gynnig eglurhad, sef nad oedd digon o brofion ar gael a bod profi staff rheng flaen wedi cael ei flaenoriaethu yn wreiddiol.
Bwriadu ymddiswyddo dros arholiadau ‘annheg’
Wedi i’r pandemig amharu yn sylweddol ar y cyfnod arholiadau yng Nghymru, rhoddodd y cyn Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei thystiolaeth i’r ymchwiliad hefyd.
Clywodd yr ymchwiliad ei bod hi wedi cynnig ymddiswyddo dros y modd cafodd arholiadau eu gohirio yn 2020.
Mewn datganiad, dywedodd ei bod wedi drafftio llythyr yn cynnig ymddiswyddo dyddiau ar ôl cwynion dros ganlyniadau’r arholiadau.
Roedd y canlyniadau wedi eu penderfynu ar sail cyfuniad o raddau a roddwyd gan athrawon ac algorithm.
Fodd bynnag, dywedodd Kirsty Williams bod Mark Drakeford wedi ei hannog i beidio ymddiswyddo.