Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, wedi cael ei feirniadu am ddisgrifio Wrecsam fel rhan o dde Cymru yn San Steffan heddiw (Mawrth 14).

Daeth ei sylwadau yn ystod yr adran cwestiynau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i’r siambr drafod pryderon dros ofal iechyd yn y ddinas.

Cyfeiriodd Sarah Atherton, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Wrecsam, at achos ble roedd rhaid i un o’i hetholwyr, oedd yn 90 oed, aros am 31 awr yng nghefn ambiwlans.

Mewn ymateb, dywedodd David TC Davies ei bod hi “yn llygad ei lle i godi pryderon am lefel y gofal iechyd sy’n cael ei ddarparu i’w hetholwyr yn ne Cymru.”

‘Angen gloywi ei ddaearyddiaeth’

Mae’r sylwadau wedi denu beirniadaeth gyda rhai’n nodi y dylai’r aelod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n uniongyrchol gyfrifol am faterion Cymreig fod yn gyfarwydd gyda daearyddiaeth y wlad.

Un sydd wedi ei feirniadu yw Jo Stevens, llefarydd y Blaid Lafur ar gyfer Cymru.

“Dylai Ysgrifennydd Cymru dreulio llai o amser yn rhefru a mwy o amser yn gwella’i afael ar ddaearyddiaeth y wlad y mae’n ei chynrychioli yn y llywodraeth,” meddai.

“Ni allaf gredu bod yn rhaid i mi ddweud hyn, ond mae Wrecsam angen llywodraeth sy’n gwybod lle mae’r ddinas!

“Bydd y ddinas yn cael cyfle i gefnogi Andrew Ranger, [yr ymgeisydd] Llafur, sydd wedi byw yn Wrecsam ers dros 20 mlynedd, yn yr Etholiad Cyffredinol.”