Bydd George North a Nick Tompkins yn dychwelyd i ganol cae ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ddydd Sadwrn (Mawrth 16) yn erbyn yr Eidal, bydd y capten Dafydd Jenkins yn symud yn ôl i’r ail reng at Adam Beard.

O’r herwydd, mae Alex Mann yn dychwelyd i’r tîm ar ochr dywyll y rheng ôl.

Does dim lle i Owen Watkin na Joe Roberts, wnaeth ddechrau yng nghanol cae yn erbyn Ffrainc, ar y fainc chwaith.

Ar ôl dod ymlaen yn gynnar yn yr ail hanner yn ystod y golled y penwythnos diwethaf, bydd Dillon Lewis, y prop pen tynn, yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth eleni.

Elliott Dee a Gareth Thomas yw’r ddau arall fydd yn dechrau yn y rheng flaen yn Stadiwm y Principality.

Sam Costelow a Tomos Williams fydd yn dechrau’r gêm, tra bo Ioan Lloyd a Kieran Hardy ar y fainc ar gyfer safleoedd y maswr a’r mewnwr.

Ymhlith yr eilyddion, mae’n debyg y bydd y prop pen tynn Harri O’Connor yn ennill ei gap cyntaf, ac mae chwaraewr y  Scarlets, Kemsley Mathias, sydd gan un cap dros ei wlad, yn opsiwn oddi ar y fainc hefyd.

‘Cywir a disgybledig’

Mae Cymru wedi colli’u holl gemau yn y bencampwriaeth hyd yn hyn, wedi dwy gêm agos yn erbyn yr Alban a Lloegr a cholledion trymach yn erbyn Iwerddon a Ffrainc.

“Mae’n amlwg bod hon yn gêm bwysig i ni,” meddai Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru.

“Tydan ni ddim eisiau gorffen ar waelod y tabl wrth gwrs ac mae’r garfan yn awchu i wneud eu gorau i sicrhau nad yw hynny yn digwydd a’n bod yn ennill ddydd Sadwrn.”

Fe wnaeth yr Eidal ennill gêm gartref yn Rhufain am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth ers 2013 ddydd Sadwrn (Mawrth 9) wrth guro’r Alban o 31 i 29.

“Mae gan Yr Eidal chwaraewyr o safon ym mhob safle ac maen nhw wedi bod yn effeithiol wrth sgorio’n gyson yn ystod eu gemau hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth eleni,” meddai Warren Gatland.

“Mae yna gyffro mawr yn y garfan ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y gêm a’r her ddaw yn sgil hynny.

“Rydyn ni’n dal i edrych am berfformiad cyflawn a chyson dros yr 80 munud ac rydyn ni wedi siarad am bwysigrwydd gwneud y penderfyniadau cywir ar eiliadau allweddol yr ornest yn enwedig.

“Rydyn ni’n deall y disgwyliadau sydd ar ein hysgwyddau. Mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarnhaol i hynny a pharhau i weithio’n ddiflino.

“Bydd yn rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae ddydd Sadwrn ac os gwnawn ni hynny – dylai’r darnau ddisgyn i’w lle.”

Tîm Cymru

15. Cameron Winnett, 14. Josh Adams, 13. George North, 12. Nick Tompkins, 11. Rio Dyer, 10. Sam Costelow, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Elliot Dee, 3. Dillon Lewis, 4. Dafydd Jenkins, 5. Adam Beard, 6. Alex Mann, 7. Tommy Reffell, 8. Aaron Wainwright.

Eilyddion

16. Evan Lloyd, 17. Kemsley Mathias, 18. Harri O’Connor, 19. Will Rowlands, 20. Mackenzie Martin, 21. Kieran Hardy, 22. Ioan Lloyd, 23. Mason Grady

  • Bydd y gic gyntaf am 2:15yp a’r gêm i’w gweld yn fyw ar S4C.