Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi Gradd Anrhydedd i Dr Carol Bell, sy’n ffigur blaenllaw yn y diwydiant olew a nwy.

Cafodd Carol Bell ei magu yn Felindre ger Abertawe a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn astudio gradd MA mewn Biocemeg yng Ngholeg Girton, Caergrawnt.

Cafodd ei phenodi yn bennaeth adran Ymchwil Ecwiti y banc Americanaidd JP Morgans yng nghanol y 1990au a bu hi hefyd yn rheoli materion nwy ac olew i fanc Chase Manhattan, cyn ymddeol yn 1999.

Mae hi’n aelod o fwrdd awdurdod S4C ac yn llais cyfarwydd ar faterion sy’n trafod materion busnes yn y cyfryngau Cymraeg.

‘Cyfrannu at gynlluniau uchelgeisiol’

Dywedodd wrth dderbyn yr anrhydedd:

“Rwyf wedi gwirioni cael derbyn yn anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, sydd wastad wedi bod yn rhan o’m mywyd gan mai dyma lle bu fy nhad yn astudio yn y 1950au.

“Rwyf hefyd yn gobeithio cyfrannu at gynlluniau uchelgeisiol y brifysgol wrth hybu addysg uwch ym Mhrifysgol Abertawe yn Llundain a thu hwnt.”