Roedd dau blismon ymysg chwech o bobl a gafodd eu harestio gan Heddlu De Cymru ddoe mewn ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu’r wythnos ddiwethaf.

Cafodd heddwas 47 oed ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac o osgoi treth incwm mewn modd twyllodrus.

Cafodd heddwas 48 oed ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Y pedwar arall a gafodd eu harestio oedd:

  • Dynes 47 oed o’r Barri ar amheuaeth o osgoi treth incwm mewn modd twyllodrus
  • Dyn 40 oed a dyn 51 oed ar amheuaeth o gynllwyn i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus
  • Dyn 57 oed ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r chwech, a gafodd eu harestio ddydd Llun, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bydd rhagor o ymchwiliadau’n cael eu gwneud.

Mae’r ymchwiliad gan Heddlu De Cymru’n cael ei oruchwylio gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.