Llun cyfrifiadurol o'r carchar newydd y bwriedir ei godi yn Wrecsam
Fe fydd arbenigwyr yn dadlau mai camgymeriad mawr yw’r cynllun i godi carchar anferthol yn Wrecsam mewn cynhadledd arbennig ddechrau’r mis nesaf.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan yn ddiweddar i fwrw ymlaen â chynlluniau i godi carchar mwyaf Prydain yn Wrecsam – carchar fydd â lle i 2,000 o garcharorion.
Canolfan Llywodraethiant Cymru o Brifysgol Caerdydd a’r Howard League for Penal Reform sy’n cynnal y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, fore Iau 6 Chwefror.
Fe fydd yr academydd Robert Jones, sydd eisoes wedi ysgrifennu cyfres o erthyglau ar y pwnc i’r Sefydliad Materion Cymreig, yn herio dadleuon llywodraeth Prydain dros godi’r fath garchar.
Yn ymateb iddo, fe fydd panel o wleidyddion ac arbenigwyr a fydd yn cynnwys Elfyn Llwyd AS, Eoin MacLennan Murray, Llywydd y Gymdeithas Llywodraethwyr Carchardai ac Andrew Neilson, Cyfarwyddwyr Ymgyrchoedd yr Howard League.