Mae cwest wedi dweud nad oes sicrwydd y byddai wedi bod yn bosib atal marwolaeth merch 14 oed a fu farw o dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol.
Cafodd corff Seren Bernard ei ddarganfod yn Aberdaugleddau, Sir Benfro ym mis Ebrill 2012. Dywedodd yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn un amheus.
Roedd ei mam, Sarah Pollock, wedi cwyno i’r ombwdsman ar ôl ei marwolaeth, gan honni fod ei phryderon am y ferch wedi cael eu hanwybyddu.
Roedd Seren Bernard yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol ar ôl i’w hymddygiad waethygu, yn ôl ei mam.
Roedd Seren Bernard wedi ceisio lladd ei hun yn 2011.