Robbie Williams - ail o'r dde
Mi fydd Robbie Williams yn cael anrheg arbennig ar ei ben-blwydd yn 40 fis nesa’, wrth i gyngor ei filltir sgwâr enwi strydoedd ar ôl ei ganeuon.

Bydd Cyngor Stoke-On-Trent yn gosod plac yn lle’r oedd Robbie Williams yn arfer byw, fel rhan o ‘Ddiwrnod Robbie’ ar y 5ed o Chwefror.

Hefyd caiff rhai o strydoedd Stoke-on-Trent eu bedyddio yn Angels Way (‘Angels’), Candy Lane (‘Candy’) a Supreme Street (‘Supreme’) yn deyrnged iddo.

Gwerthu 70 miliwn o recordiau

Cafodd Robbie Williams ei flas cyntaf o enwogrwydd yn 1990 yn rhan o’r band Take That.

Fe adawodd y band yn 1995 dan gwmwl, i ddilyn gyrfa ar ben ei hun – gan werthu 70 miliwn o recordiau ledled y byd.

Ers sawl blwyddyn mae wedi ailymuno gyda Take That a mwynhau ail wynt gyda’r band.

Dywedodd arweinydd Mohammed Pervez, Arweinydd Cyngor Stoke-On-Trent: “Mae Robbie yn seren ryngwladol ond mae o wastad wedi cofio am ei wreiddiau.”