Mae dau wedi eu lladd mewn ymosodiad a tu allan a’r tu mewn i lys barn yn Yr Almaen.
Rhoddodd Heddlu Frankfurt wybod ar Twitter bod y ddau wedi eu lladd yn dilyn saethu a thrywanu.
Cred yr heddlu bod yr ymosodwr wedi saethu bwledi tu allan i’r llys, cyn dilyn un dioddefwr i mewn i’r adeilad er mwyn ei drywanu.
Fe geisiodd y drwgweithredwr honedig ddianc ar droed cyn cael ei arestio ger y llys. Nid yw’r rheswm dros yr ymosodiadau yn hysbys.
Frankfurt yw prifddinas ariannol Yr Almaen.