Wrth i’r proffwydi ragweld llanw uchel arall ar arfordir Ceredigion fis nesa’, mae’r cyngor sir yn amcangyfrif y gallai’r gôst o drwsio promenâd tref Aberystwyth fod yn uwch na £1.5 miliwn.

Mae Cyngor Ceredigion eisiau cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am arian i helpu gyda’r costau trwsio.

Yn ystod y tywydd garw ddechrau’r mis fe gafodd y promenâd ei ddifrodi wrth i donnau’r môr sigo’r seiliau.