Nigel Evans
Mae’r gwleidydd Nigel Evans wedi pledio’n ddieuog i gyfres o gyhuddiadau ei fod wedi troseddu’n rhywiol yn erbyn dynion.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Preston heddiw i roi ple mewn naw achos o droseddau rhywiol yn erbyn saith dyn.
Mae Nigel Evans wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Mae disgwyl i’r achos ei hun ddechrau ar y 10fed o Fawrth a pharhau am bedair wythnos.
Y dyn a’r cyhuddiadau
Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n dod o Abertawe ac yn ddyn busnes yn y ddinas, wedi bod ar wahanol adegau yn gynghorydd yng Ngorllewin Morgannwg ac yn lefarydd ar Gymru ar ran y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin.
Erbyn hyn, mae’n Aelod Seneddol tros Ddyffryn Ribble yng ngogledd Lloegr ac fe roddodd y gorau i swydd y Dirprwy Lefarydd, er mwyn ymladd y cyhuddiadau.
Mae’r rheiny’n cynnwys honiadau gan saith o ddynion, gyda dau achos o ymosod o anweddus, dau o ymosod rhywiol trwy gyffwrdd heb ganiatâd ac un achos o dreisio.
Yr honiad yw fod yr ymosodiadau wedi digwydd rhwng 2002 a’r llynedd, a’r treisio wedi digwydd y llynedd.