Mae hi’n “hanfodol” i gwmni EE drwsio problemau gyda signal ffonau symudol yn Nhrefaldwyn cyn gynted â phosib am ei fod yn cael effaith ddifrifol ar fusnesau, yn ôl Aelod Seneddol.

Ers dydd Sul mae trigolion de Trefaldwyn a Phowys yn dioddef o signal gwael neu ddim signal o gwbl, gyda’r problemau hefyd yn effeithio ar ddarpariaeth 3G yn yr ardal.

Ond mae EE yn dweud eu bod bron â thrwsio’r nam technegol, dwy osod lloeren newydd ar y mast signal.

“Er hyn, mae hi’n siomedig ei bod hi wedi cymryd pum diwrnod i drwsio’r nam,” meddai Glyn Davies, AS y Ceidwadwyr dros Drefaldwyn.

Yn y tywyllwch

Dywedodd yr AS na chafodd pobol yr ardal unrhyw wybodaeth gan y cwmni i ddweud am ba hyd fydden nhw heb signal:

“Mae nifer fawr o bobol wedi cysylltu hefo fi, nifer o’r rheiny yn bobol oedrannus a bregus sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, ac yn hollol ddibynnol ar signal ffôn os oes yna argyfwng.

“Mae hi’n hanfodol bod y rhwydwaith yn cael ei drwsio yn llawn gan EE cyn gynted â phosib”.

‘Signal yn gwella’

“Mae pobol wedi cysylltu â mi i ddweud fod eu signal yn dechrau gwella ac mae EE wedi dweud y bydden nhw’n cysylltu â mi pan mae’r gwaith wedi ei orffen” meddai Glyn Davies.

Ychwanegodd yr AS fod y broblem wedi cael effaith “ddifrifol” ar fusnesau a hefyd yn peri pryder i fobol oedrannus, sy’n ddibynnol ar signal ffôn mewn argyfwng.

Meddai llefarydd EE, sy’n gyfuniad o’r ddau gwmni Orange a T-Mobile: “Mae ein peirianwyr yn ymchwilio i’r mater ar frys, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhawster sy’n cael ei achosi.”