Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn damwain ffordd yn Abertridwr ger Caerffili neithiwr.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaethau brys eu galw i’r Sgwâr yn y dref am tua chwech o’r gloch yn dilyn adroddiad bod damwain rhwng beic modur a char.

Aed a’r beiciwr, dyn lleol 63 oed, i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, lle bu farw yn ddiweddarach. Ni chafodd gyrrwr y car ei frifo.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw  un welodd y ddamwain gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 390 23/01/14.