Séan Ó Cuirreáin
Mae Comisiynydd yr iaith Wyddeleg wedi rhybuddio bod yr iaith yn cael ei gwthio o’r neilltu a fod llywodraeth Iwerddon wedi methu â’i chefnogi’n iawn.

Mae wedi sôn am strategaethau ar bapur oedd heb gael eu gweithredu ac am bolisi oedd yn annog dysgu’r iaith mewn ysgolion ond yn rhwystro pobol, neu ei gwneud yn anodd iddyn nhw, ei defnyddio yn y sector cyhoeddus.

Ac mae wedi ailadrodd proffwydoliaeth y bydd yr iaith i bob pwrpas yn farw o fewn cenhedlaeth arall.

Ymddiswyddo

Roedd Séan Ó Cuirreáin yn annerch is-bwyllgor o senedd Iwerddon, ychydig tros fis ar ôl cyhoedd ei fod yn ymddiswyddo mewn anobaith.

Fe ddywedodd hefyd nad oedd ei swyddfa erioed wedi cael digon o adnoddau i gyflawni eu gwaith statudol yn iawn.

“Mae hwn yn amser ansicr iawn i’r rhai sy’n credu mewn hawliau iaith i gymunedau’r Gaeltacht [y cymunedau Gwyddeleg eu hiaith] ac i siaradwyr Gwyddeleg yn gyffredinol,” meddai.

“Gyda chalonnau trist y bydd pobol y Gaeltacht a’r gymuned Wyddeleg ei hiaith yn dynesu at ganmlwyddiant Gwrthryfel 1916, os na fydd ein hiaith yn fwy nag iaith symbolaidd, yn hytrach na bod yn rhan ganolog o’n diwylliant a’n hetifeddiaeth.

“Dyw hi ddim yn ymddnagos i fi fod gweithredoedd arwyddocaol na chamre ymarferol wedi eu gwneud ar lawr gwlad i wynebu maint argyfwng yr iaith yn y Gaeltacht.”

Gwersi

Prif linyn araith Séan Ó Cuirreáin i’r is-bwyllgor oedd diffyg gweithredu – er gwaetha’ polisïau ar bapur. Fe ddyfynnodd sawl arbenigwr arall yn dweud mai polisïau marw oedden nhw.

Roedd diffyg anogaeth i bobol ifanc barhau gydag addysg trwy’r Wyddeleg, meddai,  roedd y wladwriaeth yn dweud wrth bobol am siarad yr iaith, ond nid gyda nhw, a doedd gan y bobol oedd yn gyfrifol am yr Wyddeleg ddim ffydd y byddai’r polisïau’n llwyddo.

Doedd mwy na hanner y prif swyddogion oedd yn gyfrifol am yr Wyddeleg ddim yn gallu siarad yr iaith.

Ond y broblem ym maes addysg, meddai, “oedd nad ydyn ni erioed wedi gwneud cysylltiadau digonol rhwng dysgu Gwyddeleg a defnydd ohoni wedyn.

“Mae’r Wladwriaeth yn mynnu bod myfyrwyr yn dysgu’r iaith ond, yn aml, mae’r un Wladwriaeth yn gwadu’r hawl, neu’n rhwystro, defnydd o’r iaith gan y bobol hynny wrth ymwneud â’r Wladwriaeth.”

Fe orffennodd trwy rybuddio rhag gwthio’r iaith o’r neilltu,  “ei gyrru i’r ymylon a rhoi lle dwy a dimai iddi ym mywyd y genedl”.