Mae dau ddyn i ymddangos ger bron llys wedi i ddyn gael ei drywanu yn ei frest ar Stryd Tin yn y Rhath, Caerdydd bnawn Mercher.
Fe fydd Victor Djassi,21, o’r Rhath a Ruben Pereira, 20, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd yn ddiweddarach heddiw wedi eu cyhuddo o ymosod, gyda chyllell yn eu meddiant.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd a bellach mae mewn cyflwr sefydlog.
Dywed yr heddlu bod eu hymchwiliad yn parhau ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.