Bydd merch sydd ar goll ers pedair wythnos yn cael ei phen-blwydd yn 19 yfory.

Cafodd Nida Nasser ei gweld am y tro olaf yn ei chartref yn Pillgwenlli, Casnewydd am tua wyth y nos ar yr 28ain o Ragfyr.

Roedd ei bryd ar fynd i’r brifysgol i wneud cwrs marchnata neu gyllid, ac roedd y teulu wedi dadlau am hynny cyn iddi ddiflannu.

Yn ôl adroddiadau nid oedd y ferch yn gwisgo esgidiau pan aeth hi ar goll. Nid oedd ganddi ei ffôn symudol, arian na chôt ychwaith.

Yr wythnos ddiwethaf fe fu pedwar swyddog heddlu yn chwilio am y ferch ger campws Coleg Gwent ar Ffordd Nash, lle mae hi’n fyfyrwraig.