Mae hi’n “hanfodol” i gwmni EE drwsio problemau gyda signal ffonau symudol yn Nhrefaldwyn cyn gynted â phosib am ei fod yn cael effaith ddifrifol ar fusnesau, yn ôl Aelod Seneddol.
Ers dydd Sul mae trigolion de Trefaldwyn a Phowys wedi gorfod dioddef signal gwael neu ddim signal o gwbl, ac mae problemau hefyd yn effeithio ar ddarpariaeth 3G yn yr ardal.
Mae Glyn Davies, AS y Ceidwadwyr dros Drefaldwyn yn dweud ei fod yn cael effaith “ddifrifol” ar fusnesau a hefyd yn peri pryder i fobol oedrannus, sy’n ddibynnol ar signal ffôn mewn argyfwng.
Yn ôl llefarydd EE, sy’n gyfuniad o’r ddau gwmni Orange a T-Mobile, maen nhw’n “ymwybodol fod cwsmeriaid yng nghanolbarth Cymru yn dioddef problemau signal oherwydd nam technegol.
“Mae ein peirianwyr yn ymchwilio i’r mater ar frys, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhawster sy’n cael ei achosi.”
‘Siomedig’
“Mae EE yn honni mai methiant mewn mast signal sydd ar fai a bod peirianwyr yn ceisio trwsio’r broblem. Rwyf wedi gofyn i’r cwmni ddangos amserlen o’r gwaith a phryd y maen nhw’n gobeithio gorffen,” meddai Glyn Davies.
“Er hyn, mae hi’n siomedig ei bod hi wedi cymryd pum diwrnod hyd yn hyn i drwsio’r nam.”
Dywedodd yr AS nad yw pobol yr ardal wedi derbyn unrhyw wybodaeth gan y cwmni i ddweud am ba hyd fydden nhw heb signal eto:
“Mae nifer fawr o bobol wedi cysylltu hefo fi, nifer o’r rheiny yn bobol oedrannus a bregus sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, ac yn hollol ddibynnol ar signal ffôn os oes yna argyfwng.
“Mae hi’n hanfodol bod y rhwydwaith yn cael ei drwsio gan EE cyn gynted â phosib”.