Fis nesa’ bydd y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn cyflwyno cais ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn Uchel Lys Caerdydd, yn gofyn am Adolygiad Barnwrol o benderfyniad un o adrannau Trysorlys Llywodraeth Prydain i roi’r gorau i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.
Mae’r Adran Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CNC) wedi gwrthod adnewyddu eu cynllun iaith, a oedd yn addo darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i gwsmeriaid.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn credu eu bod yn gweithredu’n groes i’r gyfraith, ac hefyd yn dadlau bod yr Adran CNC ar fai yn peidio ag ymgynghori gyda’r cyhoedd cyn dirwyn y cynllun iaith i ben.
Hanesyddol?
Bydd cais y Comisiynydd am Adolygiad Barnwrol yn cael ei glywed yn Uchel Lys Caerdydd ar 19 Chwefror.
Os bydd y barnwr yn caniatáu’r cais, credir mae dyma fydd yr Adolygiad cyntaf o’i fath i’w gynnal yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd eisoes wedi ceisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i newid eu safbwynt, a gofyn am gael anfon un o’i swyddogion ar secondiad i weithio yn Swyddfa Cymru yn Llundain.
Y bwriad yw ceisio sicrhau nad yw Llywodraeth Prydain yn rhoi’r gorau i gynnig gwasanaethau yn ddwyieithog ac yn parhau i barchu’r Gymraeg.
Fe rybuddiodd y Comisiynydd nôl yn yr Hydref ei bod hi’n ystyried gwneud cais ffurfiol am Adolygiad Barnwrol, ar ôl i adran y CNC benderfynu eu bod am arbed arian drwy beidio â chynnig gohebiaeth a ffurflenni Cymraeg.