Mae mudiad iaith yn rhybuddio y bydd ‘siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif’ yng Ngwynedd ymhen deuddeng mlynedd, os bydd Cyngor Gwynedd yn parhau gyda’r cynllun i neilltuo tir ar gyfer codi 4,292 o dai newydd yn y sir.
Daeth y Cynllun Datblygu Lleol yn bwnc llosg a bu Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddoe i amlinellu eu pryderon am effaith y codi tai ar y Gymraeg yn ei chadarnle.
Hefyd yr wythnos hon mae mudiad Cylch yr Iaith wedi anfon llythyr at Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards o Blaid Cymru, yn rhybuddio bod ‘cyfeiriad presennol y cyngor sir yn y mater allweddol yma yn mynd i sicrhau mai lleiafrif fydd y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd erbyn 2026’.
65.4% o bobol Gwynedd sy’n medru siarad Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011. 69% oedd y ganran yn 2001.
Er bod Cyngor Gwynedd yn dweud iddyn nhw gynllunio ar gyfer codi tai newydd yn seiliedig “ar lefel twf poblogaeth sydd yn is na rhagolygon Llywodraeth Cymru”, mae ymgyrchwyr iaith yn pwyso arnyn nhw i ganiatáu codi tai yn ôl yr angen lleol yn unig.
Asesiad yn proffwydo mewnfudo
Mewn asesiad o effaith y codi tai ar yr iaith, mae Cyngor Gwynedd yn proffwydo na fydd cynnydd yn y boblogaeth leol dros y cyfnod dan sylw, hyd at 2022, ac mai mewnfudwyr fydd yn achosi twf poblogaeth o 2,215.
Meddai Cylch yr Iaith: ‘Mae’r ffigurau hyn yn rhagdybio mewnlifiad ac mae hynny’n rhwym o arwain at gynnydd ym mhoblogaeth ddi-Gymraeg Gwynedd. Effaith amlwg hynny fydd tanseilio ymhellach y Gymraeg yn ein cymunedau. Gweithred anghyfrifol fyddai i’r cyngor sir fwrw mlaen gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y sail gyfeiliornus hon.’
Mae’r mudiad yn galw am ‘gynnal arolygon anghenion tai yng nghymunedau’r sir, a llunio cynlluniau datblygu cymunedol ar sail tystiolaeth arolygon o’r fath… gan sicrhau datblygiad cytbwys a chynaliadwy o fewn cymunedau’r sir a gwarchod eu nodweddion ieithyddol a diwylliannol.’
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn gwrthwynebu
Mewn cynhadledd yn trafod ‘Y Gymraeg: ai byw, ai marw? Be nesa?’ yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ddydd Sadwrn diwetha’ cafwyd cefnogaeth unfrydol i’r datganiad canlynol:
‘Ni ddylai Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fod yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth sy’n cynnwys mewnlifiad, a fydd yn amlwg yn peryglu nodweddion ieithyddol a diwylliannol cymunedau’r sir. Dylid, yn hytrach, seilio’r Cynllun ar y gofyn lleol am dai newydd, a dyletswydd y cyngor yw mesur hynny trwy gynnal arolygon anghenion tai yn y cymunedau unigol a chyflwyno’r dystiolaeth i Lywodraeth Cymru.
Hefyd, mae’r Adroddiad Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg o’r Cynllun yn ddiffygiol. Bydd darparu tai ar gyfer mewnlifiad yn arwain yn anochel at ostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg Gwynedd, felly dylai’r cyngor lunio asesiad newydd yn seiliedig ar y ffaith ddiymwad hon.’
Plaid Cymru yn croesawu’r mewnbwn
Mae’r Cynghorydd sydd â chyfrifoldeb dros Gynllunio ar Gyngor Gwynedd yn croesawu cyfraniadau Cylch yr Iaith a Chanolfan Uwchgwyrfai i’r drafodaeth ynghylch codi tai yn y sir.
“Dylid cofio mai disgwyliad gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd bod y cynllun newydd yn cael ei baratoi ar sail twf poblogaeth o 4% ond ein bod yn seilio ein cynllun drafft ar y rhagdybiaeth fod y boblogaeth yn cynyddu 2% dros gyfnod y cynllun newydd,” meddai’r Cynghorydd John Wyn Williams o Blaid Cymru.
“Mae’n bwysig cofio hefyd bod y cyfanswm tai a nodir yn y cynllun drafft ar gyfer ardal Gwynedd ag eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri – sef 4,290 – yn cynnwys 1,569 o unedau sydd eisoes efo caniatad cynllunio cyfredol ynghyd ag ymhell dros 1,000 o safleoedd mewnlenwi, tai gwag a thai ar hap. Oherwydd hyn, y disgwyliad yw mai tir ar gyfer uchafswm o oddeutu 1,700 o dai ychwanegol fydd yn cael eu dynodi ar gyfer ardal Gwynedd rhwng 2013 a 2026.”