Alun Mummery - un o'r gwrthwynebwyr
Bydd ymgyrch yn cyfarfod cyhoeddus ym Môn heno i wrthwynebu codi rhagor o beilonau ar draws yr ynys ac ar draws afon Menai.
Mae ymgyrch ‘Dim Peilonau’ eisoes wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i ailystyried eu cynlluniau i osod peilonau newydd mwy i gludo ynni ar draws yr ynys a throsodd i Wynedd.
Ac ymysg y rheiny fydd yn bresennol yn y cyfarfod yn Llanfairpwll fe fydd rhai o Aelodau Seneddol gogledd Cymru, gan gynnwys cadeirydd yr ymgyrch Hywel Williams, aelod lleol yr ynys Albert Owen, ac aelod sir Drefaldwyn Glyn Davies.
Dan y dŵr
Gobaith yr ymgyrchwyr yw y bydd y Grid yn dewis gosod ceblau dan y dŵr rhwng Ynys Môn a Glannau Mersi, yn hytrach na gwifrau ar draws y tir.
Yn y cyfarfod heno mae’r ymgyrch am esbonio i bobol leol pam y maen nhw’n gwrthwynebu adeiladu’r peilonau, yn ogystal ag annog y Grid i amlinellu’u cynlluniau hwy.
Mae Glyn Davies yn y cyfarfod oherwydd ei fod yntau’n rhan o ymgyrch yn erbyn codi peilonau o ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru.
‘Cost i harddwch naturiol’
Mae’r Grid yn dweud fod angen y gwifrau newydd er mwyn cludo ynni o brosiectau egni newydd yr ynys, gan gynnwys pwerdy niwclear arfaethedig Wylfa B.
Ond yn ôl y gwrthwynebwyr, mae economi ardal gogledd orllewin Cymru’n dibynnu’n fawr ar dwristiaeth oherwydd ei harddwch naturiol ac fe fyddai rhagor o beilonau’n amharu ar hynny.
Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Rhos-y-Gad, Llanfairpwll, heno.