David Cameron - gobeithiol ond angen amynedd
Mae Llywodraeth Prydain yn dweud bod y rhan fwya’ o bobol wedi cael cynnydd yn eu cyflogau go iawn yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Ac mae’r Prif Weinidog yn proffwydo y bydd ffracio ar raddfa eang yn denu rhagor o gwmnïau yn ôl i wledydd Prydain.

Yn ôl ffigurau swyddogol gan y Trysorlys, ar gyfartaledd, mae pawb ond y 10% sy’n ennill fwya’ wedi gweld y cyflogau yn eu poced yn codi o fwy na’r cynnydd ym mhris siopa.

Corff newydd

Ac, mewn araith yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davros, fe fydd David Cameron yn lansio corff newydd i ddenu’n ôl gwmnïau oedd wedi symud i lefydd fel y Dwyrain Pell.

Fe fydd yn dadlau bod nifer o fanteision o weithredu yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y posibilrwydd o ynni rhatach oherwydd ffracio – er mai dyna un o’r ffynonellau ynni mwya’ dadleuol ar hyn o bryd.

Mae’r ffactorau eraill, meddai, yn cynnwys:

  • Llai o wahaniaeth cyflogau rhwng gwledydd y Gorllewin a’r gweddill.
  • Fframwaith cyfreithiol sy’n ffafrio busnesau.
  • Llai o aros rhwng archebu a chyflenwi.
  • Agosatrwydd at farchnadoedd.

Dadl economaidd

Neithiwr, fe wnaeth David Cameron gyfres o gyfweliadau i ailadrodd yr un pwyntiau – fod yr adferiad economi ar droed ond fod angen bod yn amyneddgar.

Mae’r cyfweliadau a’r araith yn cael eu gweld yn rhan o’r frwydr rhwng y Ceidwadwyr a Llafur tros gostau byw, gyda Llafur wedi cael cefnogaeth i’w honiadau fod pobol gyffredin yn dal i ddiodde’.

“R’yn ni’n gweld rhai arwyddion positif o ran cyflogau mynd-adre,” meddai David Cameron wrth y BBC. “Ond mae’n mynd i gymryd amser.

“Rhaid i ni fod yn amyneddgar a gweithio trwy ein cynllun economaidd er mwyn cael adferiad sy’n parhau ac o les i bawb.”