Protestiadau 2011 yn yr Aifft
Mae ffrwydrad mawr wedi bod ger pencadlys yr heddlu yng nghanol Cairo y bore yma, yn ôl adroddiadau o’r Aifft.

Yn ôl asiantaethau newyddion, ,mae o leia’ bup o bobol wedi marw a hyd at 50 wedi’u hanafu hyd yn hyn.

Mae adroddiadau gan wasanaeth Al-Jazeera – sydd heb eu cadarnhau – hefyd yn awgrymu bod ail ffrwydrad wedi digwydd yn agos i orsaf fetro yn ardal Dokki yn y ddinas.

Yn ôl sianel deledu swyddogol gwladwriaeth yr Aifft, roedd cwmwl o fwg yn codi o safle’r ffrwydrad ger y pencadlys heddlu, ac roedd gynnau wedi’u tanio yn yr ardal yn union wedi’r digwyddiad.

Y cefndir

Mae hyn union dair blynedd ers dechrau’r protestiadau yn 2011 a arweiniodd at ddisodli arlywydd yr Aifft ar y pryd, Hosni Mubarak.

Ond, ar ôl i fudiad y Frawdoliaeth Foslemaidd gipio grym mewn etholiad, fe gawson nhwthau eu disodli gan benaethiaid y fyddin.

Bellach mae mudiadau dan arweiniad y Frawdoliaeth Foslemaidd yn bwriadu protestio ar ôl eu gweddïau yn ddiweddarach heddiw.

Yn ogystal â phrotestio’n erbyn gweithredoedd y fyddin, maen nhw’n gwrthwynebu cyfansoddiad newydd sy’n cael ei gynnig ar gyfer y wlad.