Bwthyn Capten Cook (CCA 3.0)
Mae protestwyr wedi paentio graffiti tros fwthyn y Capten Cook yn Awstralia – yn brotest yn erbyn dwyn y wlad oddi ar y brodorion.

Fe gadarnhaodd heddlu lleol mai dyma’r trydydd ymosodiad o fewn blwyddyn ar y tŷ a gafodd ei symud i’r wlad o Loegr yn y ganrif ddiwetha’.

Fe gafodd graffiti ei baentio tros y tŷ sydd yn fwy na 250 oed.

‘Diwrnod Goresgyn’

Mae’r brotest yn dod cyn dathliadau ‘Diwrnod Awstralia’ fory, sy’n cofnodi sefydlu dinas Sydney yn 1788.

Ond mae protestwyr yn galw’r dydd yn ‘Ddiwrnod Goresgyn’ gan ddweud fod Prydain wedi cymryd y wlad oddi ar yr aborijiniaid heb unrhyw gytundeb.

Y bwthyn oedd cartref rhieni’r Capten Cook sy’n cael y clod am ‘ddarganfod’ Awstralia.