Mae llawer o bobol oedrannus yn marw’n ddiangen trwy beidio â chael triniaeth ar gyfer canser, meddai elusen yn y maes.
Mae Cefnogaeth Canser Macmillan yn dweud bod meddygon yn penderfynu peidio â thrin pobol, oherwydd eu hoedran a dim arall.
Ond mae ymchwil gan fudiad iechyd arall yn dangos fod 8,000 o bobol wedi byw am fwy na deng mlynedd ar ôl cael diagnosis canser pan oedden nhw tros 80 oed.
Mae’r ffigwr yn codi i 130,000 wrth ystyried pobol sydd wedi mynd yn sâl ar ôl croesi’r 65, yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Canser Cenedlaethol.
‘Anghywir’
Yn ôl Macmillan, fe ddylai gweithwyr iechyd benderfynu ar driniaeth ar sail iechyd corfforol a meddyliol pobol, yn ogystal â’u hoed.
“Mae’n anghywir i roi pobol hŷn o’r neilltu am fod yn rhy hen i’w trin,” meddai Prif Weithredwr yr elusen Ciaran Devane.
“Gydag asesiad iawn a thriniaeth addas, mae ein hymchwil ni’n dangos y gall llawer o gleifion canser mwy oedrannus fyw’n hir a hyd yn oed gael eu gwella.”
Yn ôl yr elusen, mae cyfraddau goroesi canser ar gyfer cleifion hŷn – gan gynnwys mathau cyffredin o’r afiechyd megis canser y brostad, y fron, ysgyfaint, stumog, ofari a’r aren – yn is yng ngwledydd Prydain nag yng ngweddill Ewrop.
“Gallai llawer yn rhagor fyw’n hwy pe bai ein ffigurau goroesi ni ar gyfer pobol tros 65 oed yn cyfateb i rai mewn gwledydd tebyg,” meddai Ciaran Devane.