Nigel Evans yn Nhy'r Cyffredin
Fe fydd un o’r gwleidyddion Cymreig amlyca’n ymddangos o flaen llys heddiw i bledio’n ddieuog neu euog i gyfres o gyhuddiadau o droseddau rhywiol yn erbyn dynion.

Mae Nigel Evans, sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn gry’.

Mae wedi dweud ei fod, cyn hynny, yn ystyried y cyhuddwyr yn ffrindiau.

Mater o bledio a gwneud trefniadau fydd y gwrandawiad heddiw yn LLys y Goron Preston gyda disgwyl i’r achos ei hun ddechrau 10 Mawrth a pharhau am bedair wythnos.

Y dyn a’r cyhuddiadau

Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n dod o Abertawe ac yn ddyn busnes yn y ddinas, wedi bod ar wahanol adegau yn gynghorydd yng Ngorllewin Morgannwg ac yn llefarydd ar Gymru ar ran y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin.

Erbyn hyn, mae’n Aelod Seneddol tros Ddyffryn Ribble yng ngogledd Lloegr ac fe roddodd y gorau i swydd y Dirprwy Lefarydd, er mwyn ymladd y cyhuddiadau.

Mae’r rheiny’n cynnwys honiadau gan saith o ddynion, gyda dau achos o ymosod o anweddus, dau o ymosod rhywiol trwy gyffwrdd heb ganiatâd ac un achos o dreisio.

Yr honiad yw fod yr ymosodiadau wedi digwydd rhwng 2002 a’r llynedd a’r treisio wedi digwydd y llynedd.