Mark Bridger yn y ddalfa (Llun PA)
Fe fydd barnwyr uchel lys yn gwrando ar achosion a allai effeithio ar rai o’r achosion llofruddiaeth gwaetha’ yng Nghymru.

Mae’r rheiny’n cynnwys Peter Moore, y llofrudd mewn du, a Mark Bridger a lofruddiodd y ferch fach April Jones o Fachynlleth.

Fe fydd panel o farnwyr yn ystyried achos dau lofrudd arall, sydd fel Moore a Bridger, wedi cael eu dedfrydu i oes gyfan o garchar, heb obaith cael eu rhyddhau.

Hawliau dynol

Mae’r achos heddiw’n dilyn apel lwyddiannus i Lys Hawliau Dynol Ewrop gan Peter Moore a dau arall yn honni bod gorchmynion carchar oes yn “driniaeth anynnol a diraddiol”.

Fe fydd barnwr llys apêl yn ystyried tri achos i gyd – dau garcharor sy’n herio’r gorchmnion ac un achos sydd wedi ei gyfeirio gan y Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, am ei fod yn credu bod cosb o 40 mlynedd o garchar yn rhy ysgafn i lofrudd arall.

Roedd disgwyl y byddai Mark Bridger yn apelio hefyd ond, ynghynt yr wythnos hon, fe benderfynodd beidio.

Yr effaith

Pe bai’r barnwyr yn penderfynu o blaid y carcharorion, fe allai olygu bod rhaid i’w dedfrydau gael eu harolygu.

Mae carcharorion oes-gyfan eraill yn cynnwys llofrudd y Moors, Ian Brady, a Rosemary West, a boenydiodd a llofruddio deg o ferched ifanc yng Nghaerloyw.

Does dim disgwyl i’r barnwyr roi eu dyfarniad heddiw.