Y diweddara’: Erbyn bore Gwener, roedd hi’n amlwg fod pump o bobol wedi marw yn y tân a thua 30 wedi’u hanafu.

Mae tri o bobol wedi marw a 31 ar goll ar ôl tân mewn cartref henoed yng Nghanada. .

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 12:30 y pnawn i’r adeilad yn nhref  L’Isle-Verte, sydd tua 140 milltir o Ddinas Quebec.

Yn ôl y maer y dref, Ginette Caron, mae nifer o’r rhai sydd ar goll mewn cadair olwyn ac yn dioddef o Alzheimer’s.

Dywedodd swyddogion eu bod yn pryderu fod nifer y meirw am gynyddu ar ôl i ddiffoddwyr methu ag achub rhai pobol.

Roedd tua 50 o bobol yn byw yn yr adeilad, gyda 37 ohonyn nhw’n hŷn nag 85 oed. Roedd yr adeilad wedi ei wneud o bren.