Mae gwaith celf diweddaraf Gareth Parry yn dathlu mawredd Dyffryn Ogwen…

Yn ddiweddar, mae artist o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn codi ei lygaid i’r entrychion er mwyn darlunio un o gopaon mwyaf adnabyddus Eryri.

Dyffryn Ogwen a mynydd Tryfan yn arbennig yw thema cyfres newydd Gareth Parry, un o dirlunwyr mwyaf poblogaidd y wlad bellach. Mae tua 15 o’r darluniau newydd i’w gweld yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy ar hyn o bryd.

Mae crib rychog a brawychus Tryfan yn tremio dros Lyn Idwal a Llyn Ogwen, wrth ymyl y ddwy Glyder a’r llynedd fe dreuliodd yr artist gryn dipyn o amser ar y mynydd, yn braslunio neu sgetsio gyda phensel a golosg, ond yn gwneud y gwaith mawr ar y canfas yn ôl ei stiwdio.

“Fydda i ddim yn mynd lot i Nant Peris ond mae hwnnw’n cau am eich pen chi. Un peth am Ddyffryn Ogwen, mae o’n agor allan yn y ddau ben ac roeddwn i’n licio hynny fel arlunydd.

“Tryfan oedd y peth oedd yn tynnu fy sylw i fwyaf. Roedd hi’n anodd iawn paentio dim byd arall – roeddech chi yn ei gysgod o neu o dan ei ddylanwad o.”

Mae un o’r darluniau wedi’i baentio bron yn gyfan gwbl allan ar y mynydd, fel yr oedd yr artist yn arfer ei wneud flynyddoedd yn ôl.

“Dydw i ddim yn gwneud hynny rŵan – dw i’n meddwl bod yna fwy o ryddid i’w gael i fynegi mŵd yn y stiwdio ar ôl dod adref,” meddai.

“Mae cael mŵd y lle yn hollbwysig. Dydi llun ddim gwerth hebddo fo. Dim ffotograff ydi o; dw i ddim am drio cystadlu hefo camera, a dydw i ddim eisio chwaith. Dw i eisio mynd un cam ymhellach os yn bosib.

“Dw i ddim eisio bod yn wirion, a dw i ddim eisio trio paentio er mwyn bod yn wahanol. I fi’n hun, waeth heb a chogio bach a thrio bod yn wirion. Felly rhaid bod yna elfen o fod yn onest ynddo fo.”

Mae rhai o enwogion mawr y byd celf wedi anfarwoli Tryfan a Chwm Idwal ar ganfas, yn eu plith JMW Turner a Kyffin Williams.

“Mae yna beintwyr arbennig wedi bod yn Eryri, ” meddai Gareth Parry. “Un o’r mawrion ydi John Piper yn fy nhyb i. Mae yna draddodiad mawr; mae o wedi cael ei baentio yn dda; mae o wedi cael ei baentio yn sâl iawn.

“Efallai ei fod wedi cael ei or-baentio. Felly mae’n anodd gwneud dim byd newydd.” Sut yn y byd mae gwneud hynny felly?

“Peidio â chwilio amdano fo’n bwrpasol,” meddai. “Gadael iddo ddigwydd os wnaiff o; os ydi o ddim, wel, dyna fo. Mae methiant yn bart o baentio yn tydi? Os ydach chi wedi methu, mae’n eich gyrru chi ymlaen i drio’n galetach neu chwilio eto.”