Ar ôl cyfnod hir yn actio mewn dramâu llwyfan yn y West End fe hoffai Siân Phillips gael actio ar deledu.
Yr actores fyd-enwog o Bontardawe oedd gwestai agoriad swyddogol theatr fach y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar [Mehefin 12 2004].
“Wy’n dwlu ar y theatr,” meddai Siân Phillips wrth Golwg, â’i llais dwfn yn llwythog ag acen Gweuncaegurwen o hyd, “ond rwy wedi ’neud theatr gymaint yn ddiweddar, wedi mynd o ddrama i ddrama i ddrama i ddrama, a fase fe’n neis neud rhywbeth gwahanol ar y foment. Rhywbeth i’r television falle.”
A hithau ar fin troi’n 70, mae hi’n dweud nad oes un uchelgais penodol ar ôl ganddi.
“Mae gormod o bethau dw i eisie ’neud,” meddai Siân Phillips, “a’r peth trist yw chi’n sylweddoli bod bywyd yn rhy fyr i ’neud nhw i gyd.”
Mae hi’n ddynes drwsiadus a thrawiadol, yn serennu yn ei chot felen, hir. Prin y byddai rhywun yn meddwl ei bod hi dros ei 60 oed. Fe symudodd hi o Kensington i Clarkenwell, nid nepell o’r Angel, Islington, y llynedd.
“Wy’n dwlu byw yn Llunden,” meddai Siân Phillips. “Wy’n cerdded i bobman. Fasen i’n gallu cael job fel guide yn Llunden unrhyw ddydd, a fflag bach ac ymbarelo! Mae e’n exciting lan yn yr Angel.”
Y “National” yw’r theatr y bydd hi’n ei mynychu fwya’, meddai, a bydd hi’n mynd i weld dramâu “drwy’r amser.”
Mae rhywun yn synnu o glywed safon ei Chymraeg, a hithau’n byw yn Lloegr ers cyhyd. Ond gwadu hyn mae Siân Phillips.
“Dyw e ddim [yn dda],” meddai, “wy’n anghofio geirie yn sydyn. Wrth gwrs, Cymraeg y Waun a Phontardawe sy’ gyda fi. Oedd Cymraeg Mam yn hyfryd, Cymraeg Sir Gaerfyrddin, Sir Gâr. Fel fydde’ ’nhad yn ’weud wrtha i, Cymraeg talcen slip oedd da fi!”
Fe ddaw nifer o ddramâu’r West End i ben cyn pryd y dyddiau yma, ac roedd drama ddiweddara’ Siân Phillips, The Dark gan Charlotte Jones, yn un ohonyn nhw.
“Fe naethon ni e yn y Donmar,” meddai. “Roedd e’n rhywbeth newydd iawn; bach yn rhy wahanol wy’n meddwl!”
Mae’n amlwg nad oedd hi’n hoff iawn o’i chymeriad. “Hen fenyw o South London, hyll, a mab gyda hi oedd yn paedophile,” meddai Siân Phillips dan wgu. “Roedd hi’n gas, ac yn ofnadwy.”
Hoff o Rex Harrison
Mae hi wedi actio gyda rhai o enwogion y byd theatr, ffilmiau a theledu, ond mae un yn aros yn y co’.
“Mae gymaint ohonyn nhw,” meddai. “Fel John Gielgud a Rex Harrison. Un o’r actorion gorau weithies i gyda fe erioed oedd Rex Harrison.” Fe fuodd hi’n actio gydag e yn Llundain ar yr un adeg â phan wnaeth hi recordio Under Milk Wood yn y 70au.
“Doedd dim rapport o gwbl, oedd e ddim yn neis i neb,” meddai. “Siarades i ddim gyda fe o gwbl. Ond o’n i’n dwlu chwarae gyda fe. Oedd e’n wych, yn special ofandwy, Rex Harrison.”
Does ganddi ddim un sioe neu ffilm arbennig y mae hi’n falch ohono‘n fwy na’r lleill.
“Mae popeth yn ddiddorol,” meddai Siân Phillips. “Y’ch chi ddim yn meddwl am bethe fel’na pan y’ch chi’n ’neud job.
“Mae ffrind i mi, Barbara Cook, yn gwneud sioe yn Llunden a d‘wedodd hi ‘I’m told I lived through the golden age of broadway musicals. I wish somebody had told me that at the time, I’d have enjoyed it more!’
“Ac mae’n wir. Mae cymaint o bethau’n digwydd o’ch cwmpas pan y’ch chi’n gweithio. A s’dim syniad da chi pa mor dda yw e, pa mor wael yw e. Chi’n fishi’n ei ’neud e.”