“Roedd yr hen wraig wedi aberthu i’n cadw ni. Y peth lleia’ fedrwn i ei wneud fasa cadw’r drws yn agored.”

Dyna neges gyson Gerald Williams wrth sôn am groesawu ymwelwyr i hen gartref ei ewythr enwog, Hedd Wyn, yn yr Ysgwrn.

Symudodd yno i fyw at ei nain gyda’i frawd hŷn pan oedd yn bedair oed ar ôl iddyn nhw golli eu mam. Roedd ei chwaer wyth mis oed wedi cael cartref gyda modryb yn Wrecsam, a’i frawd dyflwydd a hanner gyda modryb yn Winchester.

“Mi oeddwn i a fy mrawd i fod i fynd i gartre’ plant,” meddai Gerald Williams, “ond ddaru Nain ddweud, ‘mi wna’ i eu cymryd nhw, cân nhw ddim mynd i gartref plant’.”

Bu’n ffyddlon i’r Ysgwrn byth oddi ar hynny, yn gyndyn o adael y lle hyd yn oed i fynd i’r Eisteddfod i gael ei dderbyn i’r Orsedd – cynnig y mae wedi’i gael deirgwaith, meddai. Serch hynny, mae wedi derbyn MBE gan y Frenhines.

“Dw i wedi cael honno,” meddai. “Mi oedd hi’n sioc… oedd eto i gyd roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n fwy o fraint cael fy ngwadd i’r Orsedd na’r MBE â bod yn onest. Pobol Cymru sy’n gofyn i fi fynd i’r Orsedd.”

Mae’n byw mewn byngalo ganllath islaw’r ffermdy, ac wedi bod yn croesawu heidiau o blant, myfyrwyr, ac ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Mae perchnogion newydd yr Ysgwrn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, newydd gyhoeddi cynlluniau i ‘warchod a gwella’ yr Ysgwrn gan godi safon yr hen ffermdy ond ei gadw fel y mae, a throi’r ddau feudy gerllaw yn adeiladau croeso, caffi a siop, a lle i ddehongli hanes Hedd Wyn a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

“Dw i’n edrych ymlaen ond mae gen i ofn hefyd iddyn nhw ddifetha beth sydd wedi cael ei gadw,” meddai Gerald Williams, sydd yn ei wythdegau. “Fel y cedwir i’r oesau a ddêl y glendid a fu.

“Mae’r llinell mor fain, ei wneud o’n gartref a pheidio â’i wneud o’n amgueddfa.”

Y nai a’i ewyrth enwog

Cafodd ewythr Gerald Williams, Ellis Humphrey Evans, ei ladd ym mrwydro Passchendaele ar Orffennaf 31, 1917 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ychydig cyn yr oedd y bardd i fod i gael ei Gadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Ers hynny daeth cenedlaethau o blant ysgol yn gyfarwydd â stori ddirdynnol ‘Bardd y Gadair Ddu’ drwy ffilm a rhaglenni teledu, astudiaethau, a llyfrau dirifedi.

Ond pryd daeth ei nai yn ymwybodol o fawredd ac enwogrwydd ei ewythr? “Mae o wedi tyfu arnoch chi yn ara’ deg,” meddai. “Dw i wedi bod yma erioed ac wedi cyfarfod â phobol ddiarth ar hyd fy oes. Bobol ddiarth dw i wedi’i weld yn dŵad yma. Rŵan, fel mae’r motos yn dŵad, a’r trenau a’r bysys, mae’r bobol yn cynyddu.”

Roedd ei nai yn pryderu a fyddai’r drws yn parhau ar agor petai’n gwerthu’r Ysgwrn i aelod o’r teulu, a phenderfynodd ei roi yn nwylo Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn ei warchod at y dyfodol.

“Dw i wedi trïo gwneud i’r Parc ei gadw fo fel cartref ac nid fel amgueddfa.”

Ond beth yw ei ymateb i’r Cymry sy’n hawlio hanes yr Ysgwrn yn rhan o’u hetifeddiaeth ddiwylliannol erbyn hyn?

“Cartref ydi o i mi,” meddai Gerald Williams. “Dw i wedi fy magu yma ar hyd fy oes. Pan ewch chi i ben drws, dw i ddim yn gweld yr olygfa. Dw i’n gweld yr Wyddfa, dw i’n gweld y ‘Roman Steps’, ond dw i erioed wedi bod ar eu pennau nhw… ond dw i’n eu gweld nhw bob dydd.

“Fanna dw i wedi cael fy magu. Dyna’r darlun sydd o fy mlaen i. Lle bynnag yr af i, mae hwnna’n dod efo fi.”

Cyn i’r Parc brynu’r Ysgwrn, fe fyddai’n cael oddeutu 4,000 o bobol a phlant y flwyddyn. Dyw e ddim yn rhagweld y bydd llawer yn rhagor yn dod wedi’r gwaith ailwampio.

Y Parc hefyd sy’n cyflogi’r ffermwr ifanc, Meilir Jarrett o Drawsfynydd, i ffermio’r tir.

“Dw i yn y byngalo,” meddai Gerald Williams. “Dw i’n ffarmio drwy’r ffenestr drwy’r dydd. Mi wyt ti’n sefyll wrth y ffenestr, yn gweld be sy’n digwydd ar y ffarm. A be mae Meilir yn ei wneud. A bydda i’n gofyn i fi’n hun, ‘be gythra’l mae hwnna’n ei wneud rŵan de?’

“Bachgen ifanc ydi o – mae o’n ffarmio’n hollol groes i fel byddwn i’n gwneud, dydi. Dw i’n ffarmio fel y byddan nhw wedi gwneud ar hyd yr oesoedd ynde… Mae o’n Gymro, yn ifanc, yn llond o fywyd, mae’n neis gweld hynny.”

Ac mae’n cadw golwg ar y datblygiadau newydd yn yr Ysgwrn ac eisoes wedi cwyno am gynllun i greu llwybr newydd o flaen y tŷ i bobol anabl. “Dw i yn erbyn hynny, bydd o’n newid gwyneb y tŷ,” meddai. “Gobeithio y gwnân nhw gyfaddawdu. Does yna ddim byd wedi newid fan hyn ers can mlynedd. Amser wedi sefyll yn llonydd.”

Mae’n cydnabod nad oes ganddo ddim dewis ond bodloni gyda’r datblygiad. “Mewn ffordd o siarad, taswn i wedi gwerthu’r lle yma ac wedi symud lawr i’r pentra neu ryw dref arall, fasan nhw’n gwneud fel [fynnan nhw]… fyswn i ddim yn busnesa. Ond wrth fy mod i yn ymyl, dw i’n busnesa.

“Fedswn i fod wedi gwerthu’r lle yma… ges i ddyn o America, a hwnnw’n dweud wrtha’ i – ‘cofia ddeud wrtha’ i cyn dy fod ti’n ei werthu o, gadael i mi wybod.’ Sa fo wedi mynd fatha’r Queen Mary, a’r London Bridge i America rywle, basa?”

A Duw ar drai ar orwel pell…

Mae yna dân glo clyd yn cynhesu stafell fyw dywyll yr Ysgwrn, o dan yr aelwyd frics ddu a gafodd ei gosod er mwyn cau’r hen simdde fawr tua diwedd y 19eg ganrif.

Roedd yr heyrn dur sy’n hongian uwchben y grât i ddal sosbenni yn anrheg priodas i’w nain a’i daid.

“Os na fydd yna dân yn grât mae yna ryw hen dwll du,” meddai Gerald Williams. “Mae tân yn grât yn dweud ‘croeso’. Mae o’n gwneud gwahaniaeth mawr.

“Os bydd hi’n sych mi fydda’ i’n dod fyny bob dydd, os mae’n bwrw, dof i ddim fyny bob dydd.”

Gyda’r tân glo a haul y gwanwyn yn llonni’r ffenestr, mae’r stafell yn reit glyd, ond mae’n amlwg bod angen gwaith ar y tŷ – hen bapur du ar y trawstiau yn pilio’n rhacs a’r corneli’n llaith.

Mae hen ddresel a chloc mawr wrth y wal a phiano gyferbyn â’r lle tân a gafodd ei symud o’r parlwr i wneud lle i’r cadeiriau barddol a’r Gadair Ddu.

“Mae’r dresel a phopeth yn union lle maen nhw,” meddai Gerald Williams. “Fy nhaid brynodd y cloc mawr pan oedd o’n priodi, yn ail-law yn Blaenau. Mae o’n dal i gadw amser heddiw. Mae o’n ennill ryw ddeng munud bob wythnos, wedyn jyst rhoi pwsh bach i’r bys yn ôl a’i weindio fo bob dydd Sul ac mae o’n gweithio.

“Mae pobol Sain Ffagan wedi bod yma… eisio’r Gadair Ddu, a dw i wedi dweud wrthyn nhw i’w gadael hi yma, a replica yn Sain Ffagan. Maen nhw wedi cydweld â fi.”

Mewn ffolder drom yn llawn dogfennau, cerddi a thystysgrifau mae llun o Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) a naw aelod o’i deulu ar garreg drws yr Ysgwrn – ac mae tebygrwydd rhyngddo â’i nai.

Yno hefyd mae’r dystysgrif a gafodd mam Hedd Wyn ar ôl iddo gael ei ladd: ‘He whom this scroll commemorates was numbered among those who, at call of King and Country, left all that was dear to them… that others might live in freedom.’

Mae Gerald Williams yn estyn am y plac efydd a gafodd y rhieni i goffáu eu plentyn, sef y ‘Dead Man’s Penny’: ‘Ellis Evans – He died for freedom and honour’.

“Dw i ddim yn dallt rhyfel o gwbl,” meddai Gerald Williams, “Dau fachgen, perffaith ddiarth, yn dod i gwfwr ei gilydd ar ganol cae ac un yn lladd y llall. A phwy haws ydi o’n y diwedd? Pwy well ydi o? Dim!

“Dw i’n heddychwr. Dw i ddim yn gweld rheswm mewn rhyfel. Un bywyd sydd ganddon ni. Maen nhw’n dweud ein bod ni’n mynd oddi yma i rywle arall. Os ydan ni’n mynd oddi yma i rywle arall, yn fy meddwl i mae fanno’n bur lawn bellach dydi.”

O dan y ffenestr, mae llyfr ymwelwyr ar agor ar ei ganol. Fydd neb yn cael sgrifennu ‘bril’ neu ‘cŵl’, felly mae’r sylwadau yn fwy pwyllog ac ystyrlon. Mae’n anodd anghytuno ag un am yr hen ffermwr hoffus sydd wedi dod yn enwog drwy stori drasig ei ewythr ac sy’n rhan o atyniad yr Ysgwrn. ‘Gerald is a legend.’