Mae’r asgellwr 24 oed o Gwmbrân yn chwarae rygbi saith-bob-ochr tros ei wlad, yn canu a rapio ar ei ganeuon ei hun, ac yn cyflwyno ffilmiau byrion ar blatfform Hansh S4C…

Ers faint ydach chi’n gwneud y fideos i Hansh?

Wnaethon ni’r cyntaf obwyti blwyddyn yn ôl, ar Ddiwrnod Hanes Pobol Dduon, pan ddaethon nhw draw i ffilmio fi yn siarad am hwnna.

Ar ôl hynny, wnaethon ni gychwyn cyfres fach lle’r oedd fi a Dom yn mynd i lefydd gwahanol yng Nghymru.

Aethon ni lan i’r Bala, lle doedden ni byth wedi bod. Roedd e’n brofiad da.

Y bwriad oedd gwneud cyfres o stwff fel yna, ond yn amlwg, gyda’r corona…

Beth yw eich gwaith arall?

Wnes i raddio o Brifysgol Caerdydd llynedd, gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Newyddiaduraeth.

Ond yn fy nhymor olaf, dim ond am naw awr yr wythnos roeddwn i fewn.

Felly wnes i ddechrau gweithio fel cynorthwyydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmbrân, yn helpu allan yn y dosbarth.

Ac mae yn brofiad rydw i wir wedi mwynhau.

Beth fyddai eich swydd ddelfrydol?

Bydden i’n caru darlledu ar chwaraeon neu gyflwyno ar deledu Cymraeg.

I bwy ydach chi wedi chwarae rygbi?

Fues i gydag academi’r Dreigiau am sbel, ac rydw i wedi chwarae i Gymru dan 16, 18, 20, a’r tîm saith-bob-ochr yn Awstralia, Seland Newydd, Los Angeles, Vancouver a Las Vegas.

Rydw i’n chwarae ar yr asgell i Bontypŵl ar hyn o bryd.

Beth yw eich ofn mwya’?

Mae e’n cliche a cringy, ond beth fi’n ofni mwyaf yw ddim bod yn llwyddiannus.

Ers faint ydach chi’n canu?

Pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd, roeddwn i wastad yn gwneud yr eisteddfod.

Ond gyda rhoi miwsig ar spotify ac ati (dan yr enw ‘Lloydylew’) rydw i wrthi ers 2018.

Ond nawr rwy’n treial canolbwyntio mwy arno fe.

Am be’ ydach chi’n ganu ar ganeuon fel ‘Poison’ a ‘That Feeling’, sy’n gymysgedd o rap, hip-hop ac r-n-b modern?

Ym… mae e’n random… canu am fywyd. Mae lot o’r caneuon yn tueddu i fod am y merched!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Ry’n ni newydd ddechrau hyfforddi rygbi ‘to, ddwywaith yr wythnos.

Hefyd, fi’n treial mynd i’r gym o leiaf bedair gwaith yr wythnos.

Beth ydych chi’n fwyta i fagu cyhyrau?

Rydw i’n bum troedfedd a deg modfedd o daldra, ac yn pwyso 13½ stôn.

Ond ar y foment dw i’n ceisio rhoi pwysau ymlaen, ac felly yn bwyta chwe gwaith y dydd.

Heddiw, i frecwast, ges i bedwar wy, pedair sleisen o facwn heb fraster, dwy sleisen o fara a 30 gram o jam… mae e’n eitha’ diflas, glynu at gynllun bwyta. Ond mae yn rhaid ei wneud e’!

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Bryan Habana, Kevin Hart, Thierry Henry, Arsene Wenger a Kanye West.

KFC i’w fwyta!

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Dal yn aros am y ferch gywir i rannu hynna gyda…

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Pan fi’n siarad Saesneg, fi’n dweud ‘like’ ym mhob brawddeg. Mae e’n really gwael ac yn rhywbeth sydd angen newid!

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Sa i erioed wedi gwisgo lan… ond petawn i’n mynd i barti gwisg ffansi, bydden i’n gwisgo lan fel Thierry Henry yn cit llawn Arsenal o 2003.

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Roedd partis prifysgol yn nyts.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Rydw i’n aros lan tan ddau o’r gloch y bore yn gwrando ar demos cerddoriaeth.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Peint oer o Peroni.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Ar hyn o bryd, rydw i’n darllen llyfr o’r enw Relentless: From Good to Great to Unstoppable gan Tim Grover.

Fe oedd yn hyfforddi Michael Jordan a Kobe Bryant [i chwarae pêl-fasged] yn yr NBA.

Mae’r llyfr yn really motivational ac wedi cael argraff fawr arna i’n ddiweddar.

Beth yw eich hoff air?

Bendigedig.

Beth fyddai’r swydd ddelfrydol: chwarae rygbi i Gymru neu deithio’r byd yn seren bop a chael gyrfa gerddorol lwyddiannus? 

Cerddoriaeth, 100%!

Bydden i’n cymryd yr un o’r ddau, ond dw i’n meddwl bydd mwy o arian mewn bod yn pop star!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Oh! Rwy’n cofio chwarae i Gymru dan 18 am y tro cyntaf. Wnaeth y bêl gael ei chicio ata i fi pan doeddwn i ddim yn disgwyl e’… wnes i ffymblo fe, colli’r bêl a gwneud weird face slide fewn i’r mwd… ac fe gafodd e’ ei ddangos mewn slow-motion tua pump gwaith ar S4C!