Mae Vivienne Rickman-Poole yn artist, yn gyn-athrawes ac yn nofiwr gwyllt adnabyddus. Mae ei ffotograffau o lynnoedd Eryri i’w gweld ym Mhlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa sy’n dathlu canmlwyddiant geni’r artist Jonah Jones…

Fel athrawes y dechreuodd Vivienne Rickman-Poole ei gyrfa ond, wedi wyth mlynedd, fe sylweddolodd bod yn well ganddi fod yn yr awyr agored, yn nofio yn llynnoedd Eryri na bod yn “gaeth” mewn dosbarth.

“Os dw i ddim yn mwynhau rhywbeth mi wna’i newid cyfeiriad. Mae iechyd a hapusrwydd yn llawer mwy pwysig i fi,” meddai Vivienne, sy’n dod o Bournemouth yn wreiddiol ond wedi byw yn Llanberis ers 15 mlynedd.

Erbyn hyn, mae hi’n cyfuno ei gradd mewn celf gain, ei phrofiad fel athrawes a’i hoffter o fod mewn dŵr oer i helpu pobl eraill i fwynhau nofio gwyllt yn llynnoedd Eryri. Mae Vivienne yn nofio’n wyllt bob dydd – hyd yn oed yn y gaeaf.

Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod nofio mewn dŵr oer yn gallu rhoi hwb i’r system imiwnedd a helpu gyda phroblemau iechyd meddwl fel iselder a straen.

“Dy’ch chi ddim yn nofio gwyllt jest er mwyn cadw’n ffit – mae’n gwneud i chi deimlo’n dda ynoch chi’ch hun. I fi, mae jest yn rhywbeth mae’n rhaid i fi wneud bob dydd,” meddai. “Dw i wastad wedi nofio’n wyllt. Cafodd Mam ei magu yn yr Ynysoedd Erch yn yr Alban mewn cyfnod pan doedd dim pyllau nofio dan do. Roedd hi bob amser yn nofio tu allan a phan oedden ni’n blant dyna beth oedden ni’n gwneud hefyd, ond roedd yn rhywbeth i’w wneud yn yr haf adeg hynny.”

Pan ddaeth i Fangor i wneud ei chwrs ymarfer dysgu roedd ffrind, sy’n athletwr treiathlon, wedi mynd a hi i nofio i Lyn Geirionnydd a dyna sut y dechreuodd ei chariad tuag at lynnoedd Eryri.

“Pan mae pobl yn dod i ogledd Cymru maen nhw’n tueddu i nofio yn y môr a do’n i ddim wedi ystyried nofio mewn llynnoedd. Ond dw i’n cofio nofio ar draws Llyn Geirionnydd gyda fy ffrind ac ro’n i wrth fy modd. Ges i’r profiad yna yn fuan ar ôl i fi golli Mam a dw i’n credu efallai dyna pam daeth yn dipyn o obsesiwn.”

Erbyn hyn, mae’r obsesiwn “wedi cymryd drosodd yn llwyr ac yn swydd llawn amser. Ro’n i’n edrych nol ar fy siwrne ag o’n i’n meddwl byddai’n wych gallu cyflwyno pobl eraill i’r profiadau hynny,” eglura.

Sesiynau nofio gwyllt

Mae hi’n cynnal sesiynau nofio gwyllt i bobl sydd eisiau dysgu sut i wneud hynny’n ddiogel ac i fod yn fwy hyderus yn y dŵr. Mae’r pwyslais ar fwynhau’r profiad o nofio tu allan “a mwynhau natur mewn ffordd wahanol, yn gorwedd ar eich cefn yn edrych ar yr awyr yn hytrach nag ymarfer ar gyfer treiathlon a gweld pa mor gyflym allwch chi nofio ar draws y llyn,” meddai.

“Mae pobl yn aml yn dweud eu bod nhw’n nofwyr profiadol ond mae nofio tu allan yn hollol wahanol i nofio mewn pwll nofio. Dw i’n cael pobl o bob math o gefndiroedd yn dod i’r sesiynau nofio gwyllt a’r cwestiynau maen nhw’n gofyn gan amla’ ydy ‘pa mor bell ydan ni’n gorfod nofio?’ a ‘pha mor gyflym sy’n rhaid i ni gerdded i fyny’r mynydd?’ Mae rhai yn dod o Lundain felly mae cerdded i fyny mynydd yn dipyn o gamp iddyn nhw. A dw i’n dweud wrthyn nhw mai’r peth pwysica’ ydy eu bod nhw’n cael amser da.”

Anaml iawn mae Vivienne yn gwisgo wetsuit pan fydd hi’n nofio yn y llynnoedd ond mae hi’n cynghori pobl sy’n dechrau nofio gwyllt am y tro cyntaf i wneud hynny: “Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim wedi arfer nofio yn Eryri ym mis Ebrill ac mi wnewch chi bara lot hirach mewn wetsuit. Mae’n brofiad mwy pleserus ond, wrth gwrs, mae croeso i bobl drio heb wetsuit. Beth bynnag sy’n eu gwneud nhw’n gyfforddus. Does dim rheolau.”

Mae hi hefyd yn cynghori pobl i fynd a digon o ddillad cynnes gyda nhw, a diodydd poeth.

“Os ydych chi’n mynd i’r mynyddoedd mae angen mynd a’r offer iawn efo chi. Mae’n rhaid i chi gadw llygad ar y tywydd hefyd. Os ydy’r tywydd yn wael iawn, does dim pwynt mentro i’r llynnoedd uchaf ac mae’n well cadw at y prif lwybrau. Ar ôl deuddydd o gymryd rhan yn un o’r sesiynau dw i’n cynnal dw i’n gobeithio bod gan bobl y sgiliau i allu mynd ar antur fach gyda’u ffrindiau. Mae Llyn Padarn yn lle da i bobl arbrofi efo nofio gwyllt – mae digon o bobl o gwmpas ac mae’r dŵr yn lan.”

Mae Vivienne wedi cyhoeddi “casgliad o eiriau a lluniau”, Thirty Words for Water ac yn annog pobl sy’n cymryd rhan yn y sesiynau i ysgrifennu cerddi yn son am eu profiadau neu ddod a chamera gyda nhw, neu wneud sgets. “Ond weithiau mae rhai pobl jest eisiau eistedd yn llonydd a gwylio’r mynyddoedd.”

Arddangosfa

Ar hyn o bryd mae Vivienne Rickman-Poole yn gwneud prosiect lle mae hi’n bwriadu nofio ym mhob un o lynoedd Eryri (#swimsnowdonia). Roedd y prosiect ar restr “Y 10 Antur Mwyaf Ysbrydoledig” yn The Guardian yn 2016. Mae hi wedi nofio yn llynoedd y gogledd a bellach yn troi ei golygon at dde Eryri ond yn cydnabod y gallai’r prosiect gymryd rhai blynyddoedd.

Ei hoff lyn yw Llyn Du’r Arddu – “mae’n cymryd tua dwy awr i gerdded yno ond mae’n le anhygoel. Mae lliw’r dŵr yn newid wrth i chi fynd yn ddyfnach ac mae’r awyrgylch a’r lleoliad yn arbennig.”

Mae ffotograffiaeth Vivienne Rickman-Poole i’w weld ym Mhlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog hyd at 17 Mawrth fel rhan o arddangosfa sy’n dathlu canmlwyddiant geni’r artist Jonah Jones.

“Dw i’n defnyddio ei lyfr The Lakes of North Wales i helpu gyda fy mhrosiect am lynoedd Eryri. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r arddangosfa.”

www.viviennerickmanpoole.co.uk