Do’n i’m yn siŵr be’ i’w ddisgwyl ar ôl cael tocyn i noson ‘Stand-yp’ y Steddfod. A fyddwn i’n mwynhau? Wrth gerdded i mewn i Neuadd y Dref yn y Trallwng – lle mawr, trawiadol, tebyg i “lownj Bryn Terfel” fel dd’wedodd un o’r digrifwyr – a gweld ychydig dros ugain yn y gynulleidfa, do’n i ddim yn gobeithio’r gore.
Rhyw dwtian a griddfan fuo’r rhan fwya’ ohono ni wrth wrando ar y ‘digrifwr’ cynta’, Gareth Owen. Er ei fod yn hyderus ar lwyfan, teimlwn y byddai’n well clywed jôcs fel “Be’ oedd yn bod ar y cured ham?“ a “Ti’n licio scampi? Dwi’n licio pob un o ffilms Walt Disney,” yn well ar lwyfan noson lawen nag ar lwyfan mawr, gwag y neuadd.
Y compère oedd Dewi Rhys – boi naturiol ddoniol – a’i lais yn taranu o gwmpas y neuadd ac yn codi awyrgylch y lle’n wych. Fe gafodd Huw Marshall gyflwyniad dros-y-top ganddo. Dyn ifanc, trendi oedd hwn, oedd yn gwneud hwyl am ei anlwc ei hun… doedd e ddim yn ddyn hapus o gwbl. Ond rown i’n gallu uniaethu’n iawn â rhai o’i sylwadau ffraeth ar y problemau dibwys sy’n ein cadw’n effro’n y nos.
Doedd yr un ohonyn nhw eto wedi f’argyhoeddi fod y noson yn syniad da. Gyda chymaint wedi’i drefnu ar hyd ardal y Steddfod – yn ddramâu, gigs, anterliwtiau, cyngherddau – ro’n i’n amau eu cymhellion yn fawr erbyn hyn.
Yna, fe newidiodd y neuadd – a’r noson – yn llwyr. Daeth Tudur Owen i’r llwyfan. Enw ro’n i wedi’i glywed o’r blaen, ond heb feddwl rhyw lawer amdano. Dyma bresenoldeb hunan-feddiannol, digri’, deifiol, gwreiddiol, cyfoes – popeth, a mwy. Fe’m cyfareddwyd.
Doedd dim taw ar y chwerthin (y crio chwerthin) a’r neuadd fel ’tae’n llenwi a llenwi wrth i’r jocs gyflymu. Mond athrylith a fyddai’n gallu meddwl y dylid cynnal risk assessment ar yr Orsedd, am roi cleddyf i Ray Gravell! Oni fydde’r SAS yn cyrraedd unwaith fyddai’r Archdderwydd yn gofyn “A Oes Heddwch?”
Fe allai hefyd adleisio elfen o ryw jôc o ddechrau’r set yn hwyrach ymlaen, ar ganol jôc cwbl wahanol, gyda rhyw wên fach slei ar’i wyneb.
Roedd ganddo awgrym ddiddorol i’r broblem mewnfudo yng Nghymru – y ‘Ddeddf Deud’. Hynny yw, y gallai unrhyw un fyw mewn pentre’ os oedden nhw’n gallu dweud yr enw… Ond mi fyddai’n siŵr o dynnu coes y Cymry hefyd, gan ddweud y bydde hanner cyflwynwyr Radio Cymru ddim yn cael byw yn Llanfair-yng-Nghornwy chwaith.
Mae Tudur Owen yn ddigrifwr heb-ei-ail – yn well nag unrhyw gomediwr dwi wedi’i weld ar y teledu, ar lwyfan, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Wir yr, a dw i ddim yn jocian.