Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’r Athro Laura McAllister yn dweud bod “llawer iawn mwy i’w wneud” er mwyn sicrhau cydraddoldeb i fenywod yn y byd chwaraeon.
Mae enghreifftiau clir o ferched sydd wedi dioddef anghydraddoldeb, anghyfiawnder ac amharch mewn chwaraeon ar hyd y degawdau.
Dros hanner can mlynedd ar ôl i dîm pêl-droed Lloegr, y Lionesses, gystadlu yng Nghwpan y Byd answyddogol y menywod ym Mecsico yn 1971, mae’r hanes yn cael ei adrodd yn y ffilm Copa ’71 ar ôl i bob cofnod arall o’r digwyddiad gael ei ddileu.
Yn y byd rygbi, mae’r tîm dynion sy’n fuddugol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn derbyn gwobr ariannol o £6m, ond dydy’r menywod ddim yn derbyn gwobr ariannol wrth i’r trefnwyr ddadlau y byddai’n creu bwlch rhwng y tîm cryfaf a’r tîm gwannaf.
Yn Ionawr 2019 y cafwyd y tîm rygbi merched proffesiynol cyntaf wrth, gyda phob chwaraewraig yn nhîm Lloegr yn derbyn cytundebau llawn amser.
Gwneud gwahaniaeth
Er gwaetha’r anghyfiawnderau hyn, mae ffigurau benywaidd cryf o fewn y byd chwaraeon sy’n gwneud gwahaniaeth.
Un ffigwr arwyddocaol sy’n fodel rôl i ferched ifainc mewn chwaraeon yw’r Athro Laura McAllister, cyn-chwaraewraig bêl-droed a chyn-gapten Cymru.
A hithau’n is-lywydd corff pêl-droed UEFA ers Ebrill 2023, bu’n siarad â golwg360 am ei phrofiadau hi a’i balchder o weld menywod yn fwy blaenllaw ym myd y campau.
“Yn sicr, mae pethau wedi newid gymaint ers yr amser roeddwn i’n chwarae i Gymru, ac yn chwarae’n gyffredinol i fy nghlwb yn ninas Caerdydd,” meddai.
Arloesi
Dywed yr Athro Laura McAllister fod y cynnydd sydd wedi digwydd ers iddi ymddeol yn rhoi pleser mawr iddi, a bod gweld y torfeydd yn y stadiymau yn gadarnhaol.
Ychwanega fod y gêm rhwng yr Adar Gleision a’r Fenni, pan gafodd record presenoldeb ar gyfer gêm gynghrair ddomestig yng Nghymru ei thorri, gyda 5,175 o gefnogwyr yno fis Mehefin y llynedd, yn uchafbwynt iddi.
Ond ei gyrfa hi oedd dechrau’r daith i geisio adeiladu diddordeb, buddsoddiad a chwaraewyr ym myd pêl-droed merched.
“Rwy’n falch fy mod i’n un o’r ‘arloeswyr’ i symud pêl-droed merched ymlaen”, meddai, gan gyfeirio’n benodol at y gyn-chwaraewraig Gwennan Harries a’r sylwebydd Sioned Dafydd fel dwy sydd wedi gweithio’n galed i godi proffil y menywod.
Mae’r maes yn parhau i gael ei “ddominyddu gan ddynion”, meddai, ac felly mae’n bwysig i “ferched gefnogi’i gilydd”.
Noda fod nifer o ferched “yn llawer gwell na nifer o ddynion ym myd chwaraeon”, ond nad ydyn nhw’n derbyn yr un gydnabyddiaeth serch hynny.
‘Llawer iawn mwy i’w wneud’
Noda’r Athro Laura McAllister fod yna berygl bellach i bobol feddwl bod “pob dim yn iawn”, ac er bod gwell cydraddoldeb, dydy hynny ddim yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa.
O weithio ar frig llywodraethiant pêl-droed UEFA fel is-lywydd ac fel aelod o’r pwyllgor gweithredol UEFA, noda ei bod hi’n gweld yr annhegwch yn gyson.
Hi yw’r unig fenyw ar y pwyllgor, sy’n deimlad rhyfedd meddai, gan awgrymu efallai nad yw’r sefyllfa wedi symud yn ei blaen yn bell iawn.
“Ond mae’n fraint i allu dylanwadu ar strategaeth pêl-droed merched,” meddai.
“A gweithio gyda phobol bwysig er mwyn gyrru’r gêm ymlaen a thrafod llais merched ym myd chwaraeon.”
Ymgyrch #FelMerch
Ymgyrch arbennig yw #FelMerch, gafodd ei sefydlu gan yr Urdd ar gyfer merched ifanc.
Ei phwrpas oedd ysbrydoli a’u hymbweru i gadw’n heini a chwalu’r rhwystrau sydd ynghlwm wrth chwaraeon.
Dangosodd ymchwil adeg sefydlu’r gynhadledd gyntaf fod perygl gwirioneddol i genhedlaeth o ferched roi’r gorau i chwaraeon, ac roedd yr Urdd am sicrhau bod pob merch, beth bynnag eu gallu neu brofiad, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden.
Yn ôl yr ymchwil, roedd 45% o ferched yn eu harddegau’n cadw’n heini, yn ôl ymchwil Always, gyda thri chwarter y rhai nad oedden nhw’n cadw’n heini yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw i’w cadw nhw mewn chwaraeon.
Roedd ymchwil gan Chwaraeon Cymru, sy’n cefnogi’r prosiect #FelMerch, yn dangos tua’r un pryd fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn dweud eu bod nhw’n gwneud llai o chwaraeon, yn teimlo’n euog am beidio â chadw’n heini ac yn poeni am adael y tŷ.
“Roedd yn bleser i fod yn y cynadleddau hynny,” meddai’r Athro Laura McAllister.