Mae gwaith ar y gweill i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon moduro yng Nghymru.
Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched fory (Mawrth 8), mae Ceris Mair wedi cael ei phenodi i ysbrydoli menywod ifanc ledled Cymru i gymryd rhan mewn moduro.
Fel Gweithredwr Rhanbarthol i Gymru i elusen FIA Girls on Track, bydd y ferch fferm o Gastell Newydd Emlyn yn arwain y gwaith o greu amgylchedd gefnogol, gynhwysol a chroesawgar i fenywod ifanc gymryd rhan yn y maes.
Yn ôl Ceris Mair, sydd wedi bod ynghlwm â moduro ers iddi fod yn ifanc, mae galw ymysg merched Cymru ond mae rhai’n “rhy ofnus” i ddangos eu diddordeb.
‘Y diddordeb yna’
Bu Ceris Mair yn rasio ceir ar gaeau am gyfnod yn ei harddegau, ac mae hi wedi bod yn gwneud gwaith peirianneg i griwiau ralio sy’n mynd i Iwerddon i rasio.
“Mae lot o ddiddordeb i gael ymysg merched, ond dydw i ond wedi dod i ben â dod mewn achos bod tri brawd gyda fi,” meddai wrth golwg360.
“Roedden nhw mewn yn y fo, ac roedd e mwy croesawgar gan fod rhywun o’r teulu’n ei wneud e ac wedyn y ferch yn dangos diddordeb.
“Mae e lot fwy anodd i ferched sydd â diddordeb ond does neb yn y teulu gyda diddordeb.”
Yn ôl Ceris, mae gan FIA Girls on Track nifer o aelodau yn ardal Caerdydd, ond mae diffyg ymwybyddiaeth mewn rhannau mwy gwledig o’r wlad.
“Mae’r diddordeb yna, mae rhai’n rhy ofnus i ddangos eu diddordeb,” ychwanega.
“Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n cwato fy niddordeb, a wnes i ddim ond dod mas eto i wneud e ar ôl i fi raddio yn 2014.
“Mae’r galw yna ond does dim o’r system gefnogaeth yna, y peth pwysicaf yw creu’r gymuned merched mewn moduro.
“O fy mhrofiad i o fynd i gartio mewn llefydd go-karts lleol, dw i wedi cael ymateb cadarnhaol ond amser mae dynion yn hynach dydyn nhw ddim cweit mor bles.”
‘Torri stereoteipiau’
Menter gydweithredol rhwng y Ffederasiwn Rhyngwladol Modura (FIA) a Motorsport UK ydy Girls on Track UK.
Mae’r sefydliad yn cyfuno ymdrechion elusen Dare to be Different a rhaglen yr FIA, ‘Girls on Track’, a’r nod ydy ysbrydoli a grymuso merched i ystyried cyfleoedd yn y diwydiant chwaraeon moduro.
Mae menywod eraill wedi cael eu penodi yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a dwy yn Lloegr i wneud y gwaith mae hi’n ei wneud yng Nghymru hefyd.
Fel rhan o’r gwaith, fe fydd hi’n arwain cwrs newydd i ferched 16 i 24 oed sydd gan ddiddordeb yn y maes.
“Rydyn ni’n mynd i gynnal pedwar sesiwn yn disgyn dan y gwahanol sectorau o fewn chwaraeon moduro – o gystadlu i weithio yn y diwydiant i sut allwn ni i gyd helpu’n gilydd i fynd mewn i dorri lawr y stereoteipiau,” meddai Ceris, sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r fenter ers 2016.
“Mae e’n gwrs hollol newydd, yn cael ei ariannu gydag elusen Lewis Hamilton, Mission 44.
“Rydyn ni’n pigo deng merch ym mhob ardal i ddod i wneud y cwrs, byddan ni’n cynnal pedwar sesiwn ac erbyn y diwedd byddan nhw’n cael tystysgrif gan Motorsport UK a bydd honno’n cael ei chydnabod gan golegau a phrifysgol os ydyn nhw moyn mynd ymlaen gyda modura.”
Mi fydd y ceisiadau ar agor rhwng Mawrth 8 ac 15.