Bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn chwarae eu gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2025 yn Wrecsam a Llanelli.

Fe fydd gêm agoriadol tîm Rhian Wilkinson i gyrraedd y bencampwriaeth yn cael ei chwarae yn y Cae Ras yn Wrecsam yn erbyn Croatia ar Ebrill 5.

Y tro diwethaf i’r tîm chwarae yno oedd ym mis Mawrth 2020, gan guro Estonia o 2-0 mewn gêm gyfeillgar o flaen 2,000 o gefnogwyr.

Ar ôl hynny, byddan nhw’n teithio i Kosovo ar gyfer eu hail gêm ar Ebrill 9 yn Stadiwm Zahir Pajaziti yn Podujevo.

Bydd dwy gêm gartref arall Cymru’n cael eu chwarae ym Mharc y Scarlets yn Llanelli yn erbyn Wcráin ar Fai 31 a Kosovo ar Orffennaf 16.

Dydy’r tîm heb chwarae yn Llanelli ers gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019.

‘Tyfu ein cefnogaeth’

“Nawr ein bod ni’n gwybod ein gemau a’n lleoliadau, rwyf wir yn edrych ymlaen at ddechrau gyda’r tîm,” meddai Rhian Wilkinson, rheolwr newydd Cymru.

“Mae hanes pêl-droed cryf iawn efo Cymru yn chwarae yn Wrecsam ac rwy’n gyffrous i weld y croeso a’r cyffro yn yr ardal, yn enwedig ar hyn o bryd o gwmpas pêl-droed.

“Mae’r chwaraewyr hefyd wedi cael profiadau gwych o chwarae yn Llanelli dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n gobeithio gallwn ni dyfu ein cefnogaeth yn y gorllewin gyda’n gemau yno yn ystod yr haf.

“Mae’r Wal Goch yn chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant ac rydym ni gyd yn edrych ymlaen at eu gweld nhw unwaith eto yn ein gemau.”

Bydd Cymru hefyd yn chwarae dwy gêm oddi cartref, y gyntaf yn Wcráin ar Fehefin 4 a’r llall yn Croatia ar Orffennaf 12.