Bydd mwy o drenau’n cael eu rhedeg yng Nghymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2024 y tîm pêl-droed yng Nghaerdydd.

Mae tîm dynion Cymru’n chwarae’r Ffindir yn eu rownd gynderfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fawrth 21, cyn wynebu Gwlad Pwyl neu Estonia ar Fawrth 26.

Bydd yr ail gêm yn rownd derfynol ar gyfer cyrraedd yr Ewros os ydy Cymru’n curo’r Ffindir, neu’n gêm gyfeillgar fel arall.

Ers tro, mae cwyno wedi bod ynglŷn â chapasiti trenau Trafnidiaeth Cymru ar ddiwrnodau gemau pêl-droed a rygbi yn arbennig.

Y tro hyn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu mwy o gerbydau ar gyfer diwrnod y gêm a’r diwrnod canlynol, a gwasanaethau hwyrach rhag ofn bydd amser ychwanegol yn cael ei chwarae a chiciau o’r smotyn.

Cyn y gêm

  • 10:40 Caergybi i Caerdydd Canolog a 12:30 Manceinion Piccadilly – Caerdydd Canolog: bydd o leiaf pedwar cerbyd trên yn rhedeg.
  • Capasiti ychwanegol rhwng Caerdydd Canolog a Pharc Ninian.
  • Capasiti ychwanegol ar gyfer Glynebwy, Maesteg, holl wasanaethau’r Cymoedd, y Gororau, Bro Morgannwg, y Barri a gwasanaethau’r gorllewin.

Ar ôl y gêm

  • Adferiad llawn o wasanaethau Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr am y noson, a chapasiti ychwanegol lle bo modd.
  • Gwasanaethau ychwanegol i Rymni, Casnewydd a Phenarth.
  • Gwasanaethau ychwanegol o Barc Ninian i Radur.
  • Gwasanaeth hwyrach Caerdydd Canolog – Crewe trwy Wrecsam / Caer yn gadael Caerdydd Canolog am 22:47.
  • Bydd gwasanaeth Caerdydd Canolog – Caergybi ar ôl y gemau yn gadael Caerdydd Canolog am 11:25 yn rhedeg gydag isafswm o bedwar cerbyd.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gemau hyn ac wedi gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau ar ddiwrnod gêm,” meddai Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru.

“Gall gemau canol wythnos fod yn her oherwydd nid oes gennym reolaeth dros ffactorau pwysig fel gwaith peirianneg sydd wedi’i drefnu a staffio blychau signalau a all gael effaith fawr ar wasanaethau hwyr y nos.

“Mae ein tîm wedi gweithio’n galed i ychwanegu gwasanaethau hwyrach ac ychwanegol lle bo hynny’n bosibl.”

‘Cwynion di-ri’

Mae’r cyhoeddiad “yn ddatblygiad i’w groesawu”, meddai’r Aelod Seneddol Llŷr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

“Rydym yn falch bod Trafnidiaeth Cymru o’r diwedd wedi gwrando ar y cyhoedd – a’r Pwyllgor hwn – sydd wedi galw ers tro am wasanaethau gwell i gefnogwyr pêl-droed,” meddai.

“Ers blynyddoedd bellach, mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi dioddef gwasanaethau trên gwael ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol.

“Rydym wedi clywed cwynion di-ri am gerbydau llawn dop, neu fod y gwasanaeth olaf o Gaerdydd i’r gogledd yn gadael funudau yn unig wedi’r chwiban olaf.

“Mae bwlch amlwg rhwng hynny a safon y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol.

“Mae’r rheilffyrdd yn rhan allweddol o’n seilwaith cenedlaethol ac mae gwasanaeth dibynadwy sy’n gweithio i’r cyhoedd yn hanfodol.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad cadarnhaol, ond bydd y Pwyllgor hwn yn parhau i graffu ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru ac yn pwyso am ragor o welliannau.”

Pêl-droed v rygbi: Trafnidiaeth Cymru’n ymddiheuro am eu blaenoriaethau

Dywed y Prif Swyddog Gweithrediadau eu bod am gyfarfod â’r Gymdeithas Bêl-droed er mwyn mynd i’r afael â’r broblem