Bydd Dafydd Jenkins, capten tîm rygbi Cymru, yn chwarae yn safle’r blaenasgellwr yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sul (Mawrth 10, 3yp).

Daw Will Rowlands i mewn i’r ail reng yn lle Jenkins, gan gadw cwmni i Adam Beard, y clo arall.

Mae Ryan Elias wedi’i enwi’n fachwr, a bydd yn dechrau ei ail gêm yn yr ymgyrch.

Bydd Joe Roberts yn ennill ei ail gap rhyngwladol ddydd Sul, a’i bartner yng nghanol cae fydd Owen Watkin.

Ymhlith yr eilyddion, mae’r bachwr Elliot Dee yn debygol o ennill ei hanner canfed cap, ac mae’r mewnwr Gareth Davies wedi’i gynnwys yn y garfan unwaith eto.

‘Haeddu cyfle’

“Mae ambell newid yr wythnos hon gan bod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes,” meddai Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru.

“Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol – yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr.

“Bydd Ffrianc yn bendant yn ceisio dechrau’r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd.

“Bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o’r gic gyntaf.

“Unwaith eto, rydyn ni’n edrych am berfformiad 80 munud.

“Mae’r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol.”


Tîm Cymru:

15. C. Winnett, 14. J. Adams, 13. J Roberts, 12. O. Watkin, 11. R. Dyer, 10. S. Costelow, 9. T. Williams; 1. G. Thomas, 2. R. Elias, 3. K. Assiratti, 4. W. Rowlands, 5. A. Beard, 6. D. Jenkins (capten), 7. T. Reffell, 8. A. Wainwright.

Eilyddion:

16. E. Dee, 17. C. Domachowski, 18. D. Lewis, 19. A. Mann, 20. M. Martin, 21. G. Davies, 22. I. Lloyd, 23. M. Grady