Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro am flaenoriaethu gemau rygbi’r brifddinas dros gemau pêl-droed.
Daw hyn yn dilyn cwynion gan gefnogwyr, yn enwedig rhai o’r gogledd, am y diffyg gwasanaethau sy’n rhedeg rhwng y ddau begwn ar ddiwrnodau pan fo gemau pêl-droed mawr yn cael eu cynnal.
Mae Llŷr Gruffydd, cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd, wedi cyhuddo’r cwmni o beidio â chynllunio’n ddigonol ymlaen llaw wrth i luniau o gerbydau trên gorlawn gael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywed ei fod yn “hurt” mai am 22:05 roedd y gwasanaeth trên hwyraf yn rhedeg o Gaerdydd i Wrecsam nos Fawrth (Tachwedd 21), yn dilyn gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd hynny’n gadael chwarter awr yn unig i gefnogwyr deithio o’r stadiwm yn Lecwydd i’r orsaf drenau yng nghanol y ddinas – siwrne sy’n cymryd o leiaf 25 munud ar droed ar ddiwrnod arferol.
“Pam ydych chi bob amser yn ei gael o’n anghywir yn y digwyddiadau mawr hyn?,” gofynnodd Llŷr Gruffydd.
“Fory, fory, fory ydi hi bob tro. Rydych chi bob amser yn ymddiheuro.
“Os ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad mawr, does bosib nad ydych chi’n gwneud rhyw fath o gynllun ar gyfer yr annisgwyl.”
‘Canolbwyntio’n drwm ar rygbi’
Mae Jan Chaudhry-Van Der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, yn cyfaddef fod angen “mwy o wytnwch” a chanolbwyntio mwy ar ddigwyddiadau pêl-droed mawr.
“Rydym yn canolbwyntio’n drwm ar rygbi. Rydym yn canolbwyntio’n drwm ar ddigwyddiadau diwylliannol mawr. Mae ein perfformiad wedi gwella’n sylweddol ar y ddau hynny,” meddai.
“Yn draddodiadol, nid ydym wedi canolbwyntio ar bêl-droed, ond mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei wneud ac rydym am gyfarfod â’r gymdeithas bêl-droed.
“Rwyf yn ceisio bod yn onest ac ar y funud ’dyw ein perfformiad mewn digwyddiadau pêl-droed ddim cystal ag rydym eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny.”
Eglura hefyd fod trenau newydd wedi cael problemau â’u holwynion, ac felly eu bod nhw wedi gorfod dychwelyd i’r depos.
Golyga hyn fod llai o drenau nag sy’n ddelfrydol wedi rhedeg rhwng y gogledd a’r de, ac mae’r Prif Swyddog Gweithrediadau wedi ymddiheuro am hynny.