Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi cyllid gwerth hyd at £29.4m ar gyfer uned orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno.

Y gobaith yw y gall yr uned helpu i leihau amseroedd aros am driniaeth.

Bydd y ganolfan newydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn sicrhau budd i gleifion, staff a chymuned ehangach y gogledd, gan gyflawni 1,900 o driniaethau sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw bob blwyddyn.

Bydd y ganolfan yn arbenigo mewn achosion nad ydyn nhw’n gymhleth, ac yn cynnig gwasanaethau orthopedig i ffwrdd o ysbytai, gan fynd i’r afael ag effeithiau gofal sydd heb ei drefnu ymlaen llaw ar driniaethau sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.

Bydd hyn yn lleihau’r perygl o orfod gohirio llawdriniaethau.

Sut fydd y cyllid yn helpu?

Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn adnewyddu ward wag yn Ysbyty Llandudno, i greu lle ar gyfer 19 o wlâu ychwanegol, dwy theatr newydd ac uned adferiad gwell / Gofal Ôl-Anesthetig gydag wyth gwely.

Bydd y gwaith yn Ysbyty Llandudno yn dechrau ym mis Chwefror, a’r disgwyl yw y bydd y ganolfan yn gweithredu’n llawn yn gynnar yn 2025.

Bydd gwasanaethau Orthopedig a Gynlluniwyd yn parhau yn Ysbyty Abergele nes bod y ganolfan newydd wedi’i hadeiladu.

Unwaith fydd y ganolfan wedi’i hagor, gallai cleifion sydd angen triniaeth orthopedig ac sydd angen arhosiad byr mewn ysbyty gael cynnig llawdriniaeth yn Llandudno.

Bydd cleifion yn parhau i allu dewis cael llawdriniaeth yn eu hysbyty cyffredinol agosaf os ydyn nhw’n dymuno.

‘Canolfan o fudd enfawr i bobol y gogledd’

Yn ôl Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, “bydd y ganolfan orthopedig newydd hon o fudd enfawr i bobol y gogledd a’r bwrdd iechyd”.

“Yn aml, pobol sydd â phroblemau orthopedig sy’n gorfod aros hiraf am driniaeth,” meddai.

“Mae’r buddsoddiad hwn wedi’i wneud oherwydd bod clinigwyr wedi dangos eu hymrwymiad i wella lefelau cynhyrchiant ym maes orthopedeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Mae angen dal ati â’r gwaith da hwn a bydd y ganolfan bwrpasol hon yn helpu i leihau ymhellach yr amser y mae angen i bobol aros am driniaeth yn ogystal â chynnal y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n cael eu trin.

“Yn ogystal â gwella canlyniadau cleifion, rwy’n gobeithio y bydd yn helpu’r bwrdd iechyd i ddenu a chadw staff, ac edrychaf ymlaen at agor y cyfleuster newydd hwn.”

‘Gwahaniaeth gwirioneddol i bobol y gogledd’

Yn ôl Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd y ganolfan newydd yn gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol i bobol y gogledd”.

“Rydyn ni’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynnig, gan y bydd y Ganolfan Gofal Orthopedig a Gynlluniwyd newydd hon yn Ysbyty Llandudno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobol y gogledd, yn ogystal â’n helpu ni i sicrhau cyfleuster fydd yn cael ei amddiffyn rhag pwysau argyfyngau,” meddai.

“Rydyn ni o’r farn y bydd canolfan orthopedig bwrpasol yn ein helpu ni i gynyddu ein gallu ar gyfer llawdriniaethau orthopedig, ac o gymorth mawr i leihau amseroedd aros i bobol mewn cymunedau ledled y gogledd.

“Hoffem ddiolch i’r holl gydweithwyr sydd wedi bod yn rhan o ddod â’r achos busnes hwn at ei gilydd, ac edrychwn ymlaen at weld y datblygiad yn dechrau yn y flwyddyn newydd.”

‘Cam cadarnhaol iawn i wella gofal orthopedig’

Yn ôl Madhusudhan Raghavendra, Arweinydd Clinigol ac Arweinydd y Rhwydwaith ar gyfer Orthopedeg yn ardal ganolog y Bwrdd Iechyd a Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, mae’r ganolfan yn “gam cadarnhaol iawn” yn eu “cynlluniau i wella gofal orthopedig ledled y gogledd”.

“Nid yn unig y bydd cyfuno sgiliau ac arbenigedd staff mewn un lle yn lleihau rhestrau aros ar gyfer cleifion orthopedig, ond bydd hefyd yn golygu y gallwn ryddhau gwelyau yn y prif ysbyty fel y gall cleifion eraill, sydd angen mathau eraill o driniaeth neu ofal brys, elwa ar hynny gan leihau amseroedd aros iddyn nhw hefyd,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweld manteision y mathau hyn o ganolfannau ledled y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni eisoes wedi gweld manteision y math hwn o gydweithio yn sgil ein prosiect yn Ysbyty Abergele.

“Yn ogystal â’r manteision ar gyfer ein cleifion, bydd cael canolfan fel hon yn y gogledd yn ein helpu i ddenu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ansawdd uchel.

“Rydyn ni, felly, yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn dechrau ac at drin ein cleifion cyntaf yn y ganolfan tua diwedd y flwyddyn nesaf.”