Dylai cynrychiolwyr o Gymru fod wedi bod yn rhan o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) yn gynharach, yn ôl yr Athro Chris Whitty.

Fe wnaeth Prif Swyddog Meddygol Lloegr y sylwadau wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 22), ac ar ôl i gynrychiolydd Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru ofyn a oedd y feirniadaeth fod y data ar gyfer y pandemig wedi canolbwyntio’n ormodol ar y Deyrnas Unedig gyfan yn deg.

“Roedd llif data, hyd yn oed o fewn Lloegr yn broblematig iawn, fel y mae tystion lluosog wedi’i ddweud, a byddaf yn ei ailadrodd; roedden nhw’n broblematig iawn, ac roedd hynny’n rhan o’r rheswm y cawsom drafferth yn y tri mis cyntaf,” meddai’r Athro Chris Whitty wrth ymateb.

“Roedd cael llifoedd data o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd yn her, felly roedd cwestiynau ynghylch caffael data gwirioneddol.”

Dywedodd fod gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig “gydraddoldeb llwyr”, ond fod y data yn seiliedig ar niferoedd “ac o ran niferoedd, mae llawer mwy o bobol yng Nghymru a Lloegr”.

Ychwanegodd fod y pedair gwlad hefyd wedi defnyddio dulliau gwahanol.

Diffyg ymgynghori

Beirniadodd llefarydd ar ran Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru’r diffyg cyfleoedd gafodd cynrychiolwyr Cymru i gymryd rhan yng nghyfarfodydd SAGE.

“Mae’n syfrdanol na chafodd cynrychiolwyr o Gymru eu gwahodd i gyfarfodydd SAGE tan Fawrth 4, 2020 – y trydydd cyfarfod ar ddeg,” meddai.

“SAGE yw’r prif fforwm ar gyfer cyngor gwyddonol mewn argyfwng, a dylai Cymru fod wedi cael mewnbwn i wneud penderfyniadau a chael mynediad llawn i’r holl ddeunydd.

“Beth wnaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau’r gynrychiolaeth honno’n gynt?

“Unwaith eto nid ydym yn gweld llawer o feddwl yn cael ei roi i bobol Cymru.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw’n gwneud unrhyw sylw am yr ymchwiliad tra ei fod yn mynd rhagddo, a bod trafodaethau pellach ar y gweill.

“Rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn parhau i ymgysylltu’n llawn â’r ymchwiliad i sicrhau bod pob cam gweithredu a phenderfyniad yn cael ei graffu’n llawn ac yn briodol,” meddai llefarydd.

Bwyta Allan i Helpu

Awgrymodd yr Athro Chris Whitty fod diffyg ymgynghori gydag e ac eraill am y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan hefyd.

Dywedodd nad oedd yn cofio unrhyw drafodaethau am y pwnc, gan honni y byddai hynny yn rywbeth y bydd yn ei gofio.

Er hynny, dywedodd ei fod yn “berffaith gyfreithlon” fod y Trysorlys ac adrannau eraill wedi meddwl am gynlluniau gwahanol.

Ychwanegodd ei bod hi’n bosib fod y Prif Weinidog o dan yr argraff ei fod wedi ymgynghori ynglŷn â’r cynllun.

Daw hyn wedi i’r ymgynghoriad ddweud ei fod yn debygol fod y cynllun wedi ychwanegu at y marwolaethau Covid-19.