“Cadwch ysbytai Gaza yn ddiogel” a “chadoediad nawr” fydd negeseuon gwylnos heddwch tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ddydd Sadwrn (Tachwedd 25).
Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull wrth y gylchdro ger yr ysbyty am 2yp, gan ddweud y bydd yn “gyfle i ni godi’n lleisiau dros gadoediad llwyr ar unwaith rhwng Israel a Hamas, a galw am drafodaethau heddwch”.
Daw hyn ar ôl i Israel a Hamas gytuno heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 22) i gynnal cadoediad dros dro am o leiaf bedwar diwrnod er mwyn hwyluso’r ymdrechion i gyflwyno cymorth dyngarol, ac i ryddhau o leiaf 50 o wystlon sydd wedi’u cadw’n gaeth ym Mhalesteina, yn gyfnewid am 150 o Balestiniaid sydd wedi’u carcharu yn Israel
Daw’r cadoediad dros dro yn dilyn trafodaethau gafodd eu harwain gan Qatar ar ôl saith wythnos o frwydro.
Yn ôl Israel, gallai’r cadoediad gael ei ymestyn pe bai rhagor o wystlon yn cael mynd yn rhydd ac mae Palesteina yn dweud y gallai 100 o wystlon gael eu rhyddhau erbyn diwedd y mis.
Cafodd 240 o wystlon eu cipio gan Hamas a grwpiau cysylltiedig ar Hydref 7, a dim ond pedwar oedd eisoes wedi cael mynd yn rhydd.