Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd Sir Fynwy yn derbyn cyfran o gronfa sy’n werth miliynau o bunnoedd, ar gyfer prosiectau adfywio.

Doedd dim manylion wedi’u cyhoeddi yn ystod Datganiad yr Hydref Jeremy Hunt yn Nhŷ’r Cyffredin, ond mae David TC Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy ac Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r £5.2m ar gyfer yr hyn mae’n ei alw’n “brosiectau amrywiol yn Sir Fynwy”.

Daw’r cyhoeddiad – fydd yn gweld buddsoddiad yng ngorsafoedd bysiau a threnau Cas-gwent – ddyddiau’n unig ar ôl i gais y Cyngor Sir am arian Codi’r Gwastad er mwyn adfywio Cil-y-coed gael ei wrthod, gan arwain at feirniadaeth gan y Cynghorydd Llafur sydd â chyfrifoldeb dros adfywio yng Nghyngor Sir Fynwy.

Mae’r Cynghorydd Paul Griffiths wedi disgrifio’r cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 22) fel “un o’r gwobrau hynny sy’n cael eu rhoi ar ddiwedd raffl”, gan mai eu blaenoriaeth oedd yr adfywiad gwerth £25m yng Nghil-y-coed.

Adfywio

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, lle bu’n amlinellu cynlluniau ariannol arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Natganiad yr Hydref, cyfeiriodd Jeremy Hunt at yr arian Codi’r Gwastad gwerth £1bn oedd wedi’i roi, oedd yn cynnwys £111m ar gyfer saith prosiect yng Nghymru.

“Gallaf gadarnhau hefyd y byddwn ni’n bwrw ymlaen â thros £50m o gyllid ar gyfer prosiectau adfywio o safon uchel mewn cymunedau megis Bolsover, Sir Fynwy, Warrington ac Eden Valley, ac mae gan bob un aelodau seneddol lleol eithriadol o effeithiol yn bencampwyr,” meddai’r Canghellor wedyn.

Mae Datganiad yr Hydref, sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn nodi y bydd “£37.5m i gefnogi adfywio mewn llefydd ledled y Deyrnas Unedig”, gan gynnwys Sir Fynwy, gyda’r arian yn ddibynnol ar “wiriadau terfynol, gan gynnwys rheoli cymhorthdal”.

Mae’n ymddangos mai’r gwahaniaeth yn y swm gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin yw’r £15m i Bolsover.

“Wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau hyn, dw i wrth fy modd gyda’r newyddion gwych yma,” meddai David TC Davies.

“Bydd yn sicr yn rhoi hwb enfawr i Sir Fynwy ac yn denu mwy o dwristiaid i’r rhan wych hon o Gymru.

“Fy mhrif nod erioed fu sefyll i fyny dros fuddiannau pobol Sir Fynwy – a fydd hynny byth yn newid.”

‘Siomedig’

Ond dywed y Cynghorydd Paul Griffiths fod y Cyngor yn “siomedig” eu bod nhw wedi colli allan ar gyllid ar gyfer Cil-y-coed.

“Mae’r £5m sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer yr orsaf drenau yng Nghas-gwent yn un o’r gwobrau hynny sy’n cael eu rhoi ar ddiwedd raffl,” meddai.

“Roedd y Cyngor Sir wedi rhoi blaenoriaeth bennaf i’w cais am £25m ar gyfer canolfan hamdden newydd ac i adfywio canol tref Cil-y-coed.

“Byddai hyn wedi rhoi arian i’r ardal sydd â’r angen mwyaf.

“Bydd y Cyngor nawr yn estyn allan i bob grŵp sydd â diddordeb yng Nghas-gwent i ystyried sut y gall y dyraniad hwn gael ei ddefnyddio’n fwyaf effeithiol.”

Mae lle i gredu mai bwriad y gwaith yn yr orsaf fysiau yw galluogi bysiau i droi heb golli llawer o lefydd parcio, tra bod David TC Davies wedi dweud y bydd prosiectau’n sicrhau gwelliannau sylweddol i’r rhwydwaith bysiau lleol, llwybrau cerdded, llwybrau seiclo a llwybrau cyffredin yng Nghas-gwent, yn ogystal â “chyfnewidfa well rhwng gwasanaethau bws a threnau, a gwell cyfleusterau yng ngorsaf drenau Cas-gwent”.

Dywedodd Jeremy Hunt y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn cefnogi Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll ym Mhowys, ac y bydd e’n ymweld â Wrecsam a Sir y Fflint ddydd Iau (Tachwedd 23) lle bydd parth buddsoddi newydd yn cael ei sefydlu.