Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ac mae ymateb cymysg wedi bod yng Nghymru.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn teimlo bod y mesurau gafodd eu cyhoeddi’n “grymuso pobol”, ac mae’r penderfyniad i roi’r gorau i rewi’r budd-dal tai wedi’i groesawu gan elusen Achub y Plant.
Ond mae eraill, gan gynnwys Plaid Cymru, wedi mynegi pryderon am yr hyn gafodd ei grybwyll o ran Cymru.
Yn ôl yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, roedd y Datganiad fel “galwad gofrestr o etholaethau sydd wedi’u dal gan y Torïaid” sy’n awgrymu bod hwn yn ddatganiad i helpu’r Ceidwadwyr i ddal gafael ar eu seddi.
Ac mae Ben Lake, Aelod Seneddol y Blaid yng Ngheredigion, yn dweud bod “angen i Ddatganiad yr Hydref hwn fynd ymhellach i helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol”.
Felly dyma’r prif bwyntiau a’u heffaith ar Gymru…
Datganiad er budd Cymru neu’r Ceidwadwyr?
Roedd tipyn o sôn yn y Datganiad am ddatblygu cymunedau ledled Cymru.
Bydd £50m o fuddsoddiadau codi’r gwastad yn cael eu gwneud ledled Cymru, gan gynnwys ym Mhowys, Sir Ddinbych, Llanelli a Sir Fynwy.
Bydd £500,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi yng Ngŵyl y Gelli.
Yn ogystal, bydd parthau buddsoddi yn cael eu creu yn Wrecsam a Fflint er mwyn rhoi hwb ariannol i’r ardaloedd a’u helpu nhw i ddatblygu.
Daw hyn ynghyd â’r newyddion bod rhyddhad treth ar gyfer porthladdoedd rhydd yn cael ei ymestyn o bump i ddeng mlynedd, sydd o fudd i Ynys Môn a Sir Benfro.
Tra bod rhain yn edrych fel datblygiadau cadarnhaol, mae rhai wedi cwestiynu penderfyniadau’r Canghellor o ran buddsoddiadau yng Nghymru, gan ddweud bod ffocws cryf ar fuddsoddi mewn etholaethau mae disgwyl i’r Ceidwadwyr eu colli pan ddaw’r etholiad cyffredinol.
Dyma grynodeb o rai o’r prif gyhoeddiadau:
Yswiriant Gwladol
Bydd Yswiriant Gwladol yn gostwng 2% ym mis Ionawr.
Dywed y Canghellor y bydd y math hwn o newid yn un fyddai fel arfer yn cael ei wneud ar gychwyn y flwyddyn ariannol fis Ebrill.
Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng costau byw, bydd yn cael ei roi ar waith yn gynt.
Bydd y toriad yn golygu bod rhywun ar gyflog o £35,000 yn arbed £450 mewn blwyddyn.
Gwaith a chyflogaeth
Bydd y Cyflog Byw hefyd yn cynyddu o £10.42 i £11.44 – sy’n gyfwerth â thua £1,800 yn ychwanegol i’r rheiny sy’n gweithio’n llawn amser.
Mae’r Canghellor yn awyddus i gymryd camau er mwyn cynyddu nifer y bobol sydd mewn gwaith, meddai.
Dywedodd y bydd y rheiny sy’n derbyn budd-daliadau ac sy’n chwilio am waith yn gorfod cymryd rhan mewn lleoliad gwaith er mwyn gwella’u cyflogadwyedd os nad ydyn nhw’n dod o hyd i waith o fewn deunaw mis.
Bydd y rheiny sy’n gwrthod chwilio am swydd am chwe mis yn colli eu budd-daliadau.
Newid arall yw’r toriad mewn trethi ar gyfer pobol hunangyflogedig.
Bydd Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael ei ddileu, gan arbed £192 y flwyddyn i berson hunangyflogedig cyffredin.
Yr ymateb yng Nghymru: “Annigonol”?
Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi mynegi ei bryderon ynglŷn â chynigion Datganiad yr Hydref ar gyfer Cymru.
Disgrifia’r Datganiad fel “galwad gofrestr o etholaethau a ddelir gan y Torïaid gan awgrymu bod y Ceidwadwyr yn ceisio dal ar eu seddi”.
“Roedd Datganiad yr Hydref heddiw wedi’i fwriadu fel melysydd cyn-etholiad hen-ffasiwn – ond bydd yn gadael blas cas i nifer,” meddai.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i gael heddiw yw rhagor o fesurau tymor byr heb ddatrysiad go iawn i’r heriau economaidd rydyn ni’n eu hwynebu: buddsoddiad isel a chynhyrchiant isel.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth a Ben Lake mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
“Cyflwynodd Plaid Cymru gynigion gyda’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng anghydraddoldeb: tariff cymdeithasol ar gyfer ynni, fformiwla ariannu decach i Gymru, trosglwyddo biliynau sy’n ddyledus mewn cronfeydd seilwaith rheilffyrdd, a sicrhau llif arian i goffrau Cymru drwy ddatganoli’r Goron,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Dyma’r camau hollbwysig sydd eu hangen i adeiladu dyfodol tecach a mwy uchelgeisiol i Gymru.”
Ychwanegodd Ben Lake bod “angen i Ddatganiad yr Hydref hwn fynd ymhellach i helpu teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol.”
“Mae biliau ynni yn parhau ar lefelau hanesyddol o uchel,” meddai.
“Cyn Datganiad yr Hydref, dadleuodd Plaid Cymru dros gymorth wedi’i dargedu i helpu teuluoedd gyda chostau ynni’r gaeaf hwn, a Thariff Ynni Cymdeithasol i helpu i wneud y system yn decach yn y tymor hir.
“Rhwng Hydref 2021 a Hydref 2023, mae costau ynni wedi codi 49% tra bod enillion cyfartalog wedi codi 14%.
“Mae’n siomedig bod y Canghellor wedi methu â manteisio ar y cyfle hwn i helpu aelwydydd.”
‘Grymuso pobol ledled Cymru’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r datganiad gan ddweud ei fod yn “grymuso” pobol.
“Ni ddylai unrhyw lywodraeth adael pobol i wastraffu eu bywydau, fe ddylen nhw eu galluogi nhw i gael gwaith i gynnal eu hunain a’u teuluoedd,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.
“Dyna pam mae’r datganiad hwn yn grymuso busnesau i fuddsoddi a chreu swyddi.
“Yn grymuso pobol ledled Cymru drwy ganiatáu iddyn nhw gadw mwy o’u harian eu hunain drwy dorri trethi.
“Ac yn grymuso’r rhai y mae Llafur wedi rhoi’r gorau iddyn nhw drwy ddenu pobol yn ôl i weithio.”
Mae Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant, hefyd wedi croesawu’r datganiad a’r penderfyniad i ddod â rhewi’r budd-dal tai i ben.
“Wedi tair blynedd heb unrhyw gynnydd, ar hyn o bryd mae’r niferoedd uchaf erioed o blant mewn llety dros dro, a bydd y cyhoeddiad hwn yn mynd rywfaint o’r ffordd i sicrhau bod gan blant gartrefi diogel i dyfu i fyny ynddyn nhw,” meddai.
‘Dim byd i Gymru’
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, doedd “dim byd” yn y Datganiad i Gymru, yn enwedig y rheiny sy’n ei chael hi’n anodd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.
Mae wedi’i ddisgrifio fel “rhagor o nonsens” gan yr arweinydd Jane Dodds, sy’n dweud bod y sefyllfa “tu hwnt i afael” y Ceidwadwyr yn San Steffan a bod “rhaid bod Rishi Sunak yn byw ar blaned arall”.
Wrth gyhuddo’r Ceidwadwyr o esgeuluso Cymru, dywed ei bod hi’n bryd cynnal etholiad cyffredinol gan fod y Llywodraeth “yn anaddas ar gyfer grym” ac nad oes ganddyn nhw fandad bellach.