Atal troseddu fyddai prif flaenoriaeth ymgeisydd Plaid Cymru yn y gogledd ar gyfer etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd y flwyddyn nesaf.
Lisa Goodier yw ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai, pan fydd pedwar Comisiynydd Heddlu Cymru’n cael eu dewis eto.
Ar hyn o bryd, mae Lisa Goodier, sy’n gynghorydd tref ym Mhenmaenmawr yn Sir Conwy, yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn helpu i ryddhau cleifion o ysbytai.
Mae hi wedi gweithio mewn carchardai, ac ym maes iechyd meddwl cyn hynny hefyd, a phe bai’n cael ei hethol, hi fyddai’r ddynes gyntaf i ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru.
Andy Dunbobbin, y Comisiynydd ers 2021, yw ymgeisydd Llafur yn y gogledd eto.
Y ffordd orau i fynd i’r afael â throseddau ydy eu hatal nhw rhag digwydd yn y lle cyntaf, yn ôl Lisa Goodier.
“Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn cyfiawnder troseddol, ac yn bwysicach na hynny, cyfiawnder cymdeithasol hefyd,” meddai wrth golwg360.
“Yn sgil fy magwraeth a’r trafferthion dw i wedi’u cael yn fy mywyd o ran dioddef o drais yn y cartref fy hun, dw i’n gwybod y gall bywyd fod yn eithaf anodd.”
Atal troseddu
Bu Lisa Goodier yn gweithio am gyfnod yn Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a dywed fod hynny wedi dangos pa effaith mae diffyg cyflogaeth yn ei chael ar bobol.
“Yn gweithio ym maes iechyd meddwl, dw i’n ymwybodol o’r trafferthion mae pobol yn eu hwynebu. Pan nad ydy eu bywydau’n mynd yn dda neu os ydyn nhw wedi cael amser anodd yn tyfu fyny, maen nhw weithiau’n mynd i droseddu,” meddai.
“Pan fo’r heddlu’n mynd allan i dai pobol, maen nhw’n gweld y trafferthion mae pobol wedi’u hwynebu’n ystod eu hoes, a’r problemau iechyd meddwl – mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan straen yn sgil blynyddoedd o danariannu ac mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n codi’n gyson pan mae’r heddlu’n mynd i achosion.
“Dw i’n meddwl fod yna lot o waith i’w wneud yna i atal troseddu – yn y blynyddoedd cynnar, cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i’w plant fel nad ydyn nhw’n troi at droseddu.”
Codi ymwybyddiaeth
Rhan fawr o hynny ydy codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd fel bod ganddyn nhw’r arfau i helpu eu hunain neu gefnogi eu plant, yn ôl Lisa Goodier.
“Mae lot o wybodaeth y gallwn ni drosglwyddo i’r cyhoedd er mwyn codi’u hymwybyddiaeth nhw, ond mewn ffordd ystyrlon, syml fel eu bod nhw’n gallu helpu eu hunain, a helpu eu plant,” meddai.
Er bod Comisiynwyr Heddlu benywaidd yn Lloegr, does yna’r un ddynes wedi gwneud y rôl yn yr un o bedwar llu heddlu Cymru ers cyflwyno’r rolau yn 2012.
“Dim dyna pam fy mod i wedi ymgeisio, ond roeddwn i’n teimlo fel bod gen i agwedd eithaf gwahanol tuag at yr holl beth,” meddai Lisa Goodier, sy’n Gyfarwyddwr Cydraddoldeb Plaid Cymru.
“Yn amlwg, dw i’n ymwybodol o droseddau cyfundrefnol, masnachu pobol, caethwasiaeth fodern a’r holl bethau hyn – ac rydyn ni’n gweithio â’r asiantaethau perthnasol i fynd i’r afael â nhw.
“Ond wrth wneud hynny, mae eisiau sicrhau fod pobol ledled gogledd Cymru’n gallu gweld yr arwyddion ynghynt fel ein bod ni’n gallu torri’r cysylltiadau hynny’n gynnar.”
Un o’r prif flaenoriaethau ydy bod pobol, ac yn enwedig pobol mewn grwpiau â nodweddion gwarchodedig, yn gallu cael mynediad at wybodaeth hygyrch, meddai.
“Gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth a chael mynediad at wybodaeth maen nhw’n gallu ei ddeall – pa bynnag iaith ydy hynny, nid Cymraeg a Saesneg yn unig, ond yn ieithoedd yr holl bobol sydd wedi symud yma gan ein bod ni’n Genedl Noddfa – ydy’r flaenoriaeth.
“Gwneud mwy o sesiynau codi ymwybyddiaeth a sesiynau addysgol wyneb yn wyneb, pethau all unrhyw un fynd ar-lein â’u deall – sut i atal hunanladdiad, i fi mae’r math yna o beth yn bwysig.
“Cael y wybodaeth allan i bawb yng ngogledd Cymru, fel eu bod nhw’n gallu gwneud eu hunain mor wydn â phosib.”