Bydd Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, yn cyflwyno’i Ddatganiad yr Hydref amser cinio heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 22).

Bwriad y Datganiad yw amlinellu newidiadau i gynlluniau gwario Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a nodi cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dilyn y Gyllideb lawn ym mis Mawrth.

Dyma gip ar rai o’r cyhoeddiadau y gallwn ni eu disgwyl…


Trethi

Mae sôn y bydd y dreth incwm yn cael ei thorri er mwyn ceisio annog twf.

Mae disgwyl y bydd toriadau i Yswiriant Gwladol, y dreth incwm a’r dreth etifeddiant, ond does dim byd wedi’i gadarnhau hyd yma.

Dim ond 4% o’r boblogaeth fyddai’n gweld effeithiau torri treth etifeddiant, tra byddai toriadau i Yswiriant Gwladol neu’r dreth incwm yn berthnasol i bawb sy’n gweithio.

Un o’r newidiadau posib yw fod y trothwy ar gyfer y newidiadau hyn yn cynyddu.

Prynwyr tro cyntaf

Mae disgwyl y bydd y cynllun gwarantu morgeisi am flwyddyn arall – mae disgwyl iddo ddod i ben fis Rhagfyr ar hyn o bryd.

O dan y cynllun, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi benthycwyr sy’n cynnig morgeisi o 95%, gan alluogi prynwyr tai i dalu blaendal sy’n cyfateb i 5% o werth y cartref.

Y cynllun Cymorth i Brynu Cymru yw fersiwn Cymru ar gyfer prynwyr tro cyntaf.

Budd-daliadau a phensiynau

Mae sôn y bydd budd-daliadau’n gweld cynnydd mwy na’r disgwyl, ond y bydd y drefn fudd-daliadau’n llymach hefyd.

Dywed Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod yna ryw ddwy filiwn o bobol oed gwaith nad ydyn nhw mewn gwaith ar hyn o bryd.

Mae disgwyl iddo roi blaenoriaeth i gefnogi’r rheiny sy’n gallu gweithio ond sy’n ddiwaith, oherwydd bod “rhaid i’r system fod yn deg i drethdalwyr sy’n eu hariannu”.

Mae disgwyl y bydd budd-daliadau’n cael eu cynyddu yn unol â chyfradd chwyddiant mis Medi.

Mae’r Datganiad hefyd yn debygol o gynnwys newid i gyfradd bensiynau’r wladwriaeth.

Golyga’r rheol clo triphlyg fod pensiynau’n codi yn unol â’r mesur uchaf o dri.

Ond mae’n bosib na fydd y Canghellor yn dilyn y rheol honno, gan ddefnyddio ffigwr llai ar gyfer y cynnydd mewn pensiynau’r wladwriaeth.

Gan nad yw budd-daliadau a phensiynau wedi’u datganoli, bydd unrhyw newid yn effeithio ar bobol yng Nghymru.


Beth mae’r gwrthbleidiau eisiau ei weld?

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, eisiau gweld mwy o gymorth i domenni glo a rheilffyrdd Cymru, ond mae’n annhebygol y bydd hynny’n flaenoriaeth i Lywodraeth San Steffan.

Hoffai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, weld mwy o flaenoriaeth ar gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd ynghyd a chefnogaeth ychwanegol i fusnesau bach.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn cyflwr enbyd yma yng Nghymru, yn enwedig o ran ein gwasanaethau deintyddol,” meddai.

“Rhaid inni ganolbwyntio ar ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau deintyddol y mae dirfawr eu hangen fel y gallwn dorri i lawr ar restrau aros.

“Mae angen inni hefyd fuddsoddi yn ein heconomi drwy dorri cyfraddau ar gyfer busnesau bach tra ar yr un pryd sicrhau bod ein hysgolion yn cael arian sy’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi plant o deuluoedd incwm isel.”

Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, mae angen i’r datganiad fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

“Mae ar Gymru angen ymrwymiad gwirioneddol i fynd i’r afael â’r argyfwng anghydraddoldeb heddiw,” meddai.

“Rwy’n ofni, yn hytrach, y byddwn yn cael mwy o fân fesurau tymor byr.

“Rhaid datganoli pwerau cyllidol i Gymru os ydym am fuddsoddi yn ein heconomi a’n cymunedau i’r dyfodol.”

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, eisiau gweld mwy o fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol a gostyngiad mewn biliau i deuluoedd incwm isel.